BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Hydref 2006, 06:29 GMT 07:29 UK
Pentref yn cofio trychineb
Ysgol Pantglas, Aberfan
Collodd 116 o blant a 28 oedolyn eu bywydau

Diwrnod tawel o gofio fydd hi'n Aberfan ddydd Sadwrn, 40 mlynedd ers y drychineb. Diwrnod i gofio'r rhai a gollwyd a chyfle i ddiolch am fywydau rhai a oroesodd. Ond mae hefyd yn amser i edrych ymlaen at y dyfodol mewn cymuned a gollodd genhedlaeth.

Ar l gwasanaeth cyhoeddus nos Iau gwasanaeth tawel a phreifat i'r teuluoedd a chyfeillion fydd yn y fynwent uwchben Aberfan ddydd Sadwrn, union 40 mlynedd ers i'w bywydau newid am byth.

Yn y fynwent fe fyddan nhw'n gosod blodau ac yn gweddo wrth gofio'r 144 o bobl gafodd eu lladd pan fu tirlithriad yn y pentref - tirlithriad a gladdodd ysgol gynradd. Claddodd y domen bron i ddau ddwsin o dai a'r ysgol.

Roedd 116 o'r rhai a gafodd eu lladd yn blant.

Roedd hi'n fore niwlog yn Aberfan ar Hydref 21 1966 a'r plant yn edrych ymlaen at wyliau hanner tymor. Ond am 0915 cafodd y pentref ei deffro gan sŵn aflan a fyddai yn gysgod dros y gymuned - a'r wlad - am oes.

Duwch

"Fe wnaethon ni glywed sŵn ofnadwy - sŵn taranu - roedd mor uchel, doedden ni ddim yn gwybod be oedd o," meddai Gaynor Madgewick a oedd yn wyth oed a newydd ddechrau gwers mathemateg yn Ysgol Gynradd Pantglas.

"Fe rewodd yr ysgol, roeddwn i mewn ofn. Fe wnaeth y sŵn gynyddu. Dwi'n cofio meddwl bod rhywbeth ofnadwy yn mynd i ddigwydd ac yna fe aeth y cyfan yn ddu."

Gaynor Madgewick
Collodd Gaynor Madgewick frawd a chwaer yn y drychineb

Dywedodd iddi geisio rhedeg at y drws ond na lwyddodd hi i gyrraedd.

"Y cof nesa sydd gen i ydi deffro mewn hunlle, Roedd 'na anrhefn, sbwriel ym mhob man, plant ym mhob man.

"Roedd rhai o fy ffrindiau yn gorwedd o danna i ac yn fy ochr. Fe wnaeth un bachgen, ffrind, farw wrth fy ochr."

Un oedd yn dysgu yn yr ysgol ar y pryd oedd Hettie Williams.

Twnnel

"Mae'n anodd iawn disgrifio'r sŵn mae'n anesboniadwy," meddai.

"Roedd 'na dawelwch. Fe ddywedes i wrth y plant i fynd o dan y desgiau gan fod 'na rywbeth yn dod ar ein pennau. Fe wnaethon ni aros yn meddwl be fyddai'n digwydd.

"Fe wnaeth y waliau gracio ac fe agorais y drws - roedd yn ddu tu allan. Fe allwn i weld rhywfaint o olau ac roedd i'w weld fel twnnel o ryw fath ac fe eglurais i'r plant mai ymarfer tn oedd hyn ac iddyn nhw fynd drwy'r twnnel heb edrych i'r dde na'r chwith."

Llwyddodd ei disgyblion i ddianc. Ond roedd y darlun yn dduach mewn dosbarthiadau eraill.

"Pedwar o'r 34 oedd yn fy nosbarth wnaeth ddim marw," meddai Jeff Edwards a oedd yn ddisgybl yn yr ysgol.

Parc coffa, Aberfan
Cafodd y parc coffa ei sefydlu ar safle'r ysgol

"Fe gerddais i'r ysgol fel arfer gyda fy ffrind gorau Robert. Funudau wedyn roedd wedi marw.

"Roedd yn rhaid i ni dyfu fyny'n gyflym wedi'r digwyddiad. Un munud roeddwn yn blentyn ar y ffordd i'r ysgol yn cicio pl heb unrhyw bryder, y nesa roeddwn bron marw."

Wrth i'r newyddion am yr hyn a ddigwyddodd dorri, fe ddaeth y cymorth o bob man. Gorymdeithiodd glowyr o bwll glo gerllaw drwy'r pentref a gweld yr ysgol o dan y domen; fe ddaeth diffoddwyr tn o bob cwr o Gymru ac fe roddodd nifer o wirfoddolwyr raw yn y car a gyrru i Aberfan i gloddio.

Wrth iddyn nhw gloddio roedd y gwastraff yn dal i symud. Gyda'r chwiban daeth tawelwch a'r cloddio'n dod i ben wrth i bobl wrando am unrhyw arwyddion o fywyd.

Ond ar l dwy awr fe ddiflannodd y gobaith. Chafodd neb ei achub ar l 1100 y bore hwnnw. Bu'n wythnos gyfan cyn i'r cyrff i gyd gael eu canfod.

Buan iawn y trodd y galar yn ddicter.

Condemnio

Ceisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol - perchnogion y domen - ddweud mai gweithred naturiol oedd hyn.

Beiodd Yr Arglwydd Robens, cadeirydd y bwrdd, ffynnon naturiol oedd wedi gollwng dŵr i'r domen gan ddweud ei bod yn amhosib gwybod ei fod yno.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal i ofyn sut a pham y digwyddodd trasiedi o'r fath.

Fe ddylai gwersi fod wedi eu dysgu ond doedden nhw ddim
Athro Iain McLean

Roedd y canlyniad yn ddeifiol. Cafodd y Bwrdd Glo eu condemnio am eu gwendidau a'i methiannau. Fe gafodd y llywodraeth ei beirniadu hefyd ond chafodd neb erioed ei erlyn, ei ddirwyo na'i ddiswyddo.

Fe achosodd y drychineb alar drwy'r wlad gyda 1.75 miliwn yn cael ei gasglu i'r pentref.

Ond yna fe ddaeth 'na ail ergyd. Oherwydd pryder y gallai'r tomennydd uwchben eu cartrefi symud unwaith eto roedd y pentrefwyr am iddyn nhw gael eu symud.

Dysgu gwersi

Pan wrthodwyd eu cais fe wnaeth y pentrefwyr ollwng bagiau o wastraff tu allan i'r Swyddfa Gymreig.

Cytunodd y llywodraeth wedyn y dylai'r tomennydd gael eu symud ond roedd rhaid i'r pentrefwyr dalu 150,000 o'r gronfa drychineb tuag at y gwaith.

Un sydd wedi ymchwilio i'r drychineb ydi'r Athro Iain McLean.

Astudiodd ganlyniadau'r ymchwiliad a dywed bod hon yn drychineb oedd yn "aros i ddigwydd".

Yr Athro Iain McLean
Mae'r Athro McLean wedi ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd

"Fe ddylai gwersi fod wedi eu dysgu ond doedden nhw ddim.

"Roeddwn i'n barod am sgandal ond roedd ymddygiad yr Arglwydd Robens a phenaethiaid y bwrdd glo yn annerbyniol - yn enwedig oherwydd methiant unrhyw un mewn awdurdod i ddeall yr effeithiau ysgytwol ar bobl Aberfan a methiannau'r llywodraeth.

"Y methiant mwya oedd gorfodi'r gronfa i dalu am symud y tomennydd."

Roedd y pentrefwyr wedi talu'r pris eitha - colli 144 bywyd - ac roedd angen iddyn nhw dalu i symud y tomennydd.

Rhwyg cymuned

Cafodd y taliad ei ad-dalu i'r pentrefwyr 30 mlynedd yn ddiweddarach - heb log.

Dywed y pentrefwyr bod angen yr arian i gynnal y fynwent.

Mae'n anochel bod y graith yn parhau. Mae'r boen yr un mor boenus heddiw ag yr oedd yn 1966.

Ond dydi'r pentrefwyr ddim am hel meddyliau am y gorffennol ac mae 'na nifer o brosiectau wedi dechrau i ddenu gwaith newydd a gobaith i'r ardal.

Wrth i gyfryngau'r byd gyrraedd y pentref dros y misoedd diwethaf, ychydig iawn sydd am siarad am eu colled gyda'r rhan fwyaf o bobol yn awyddus i siarad am ail adeiladu'r dyfodol yn y pentref.

Fe greodd y drychineb rwyg ymhlith y teuluoedd gollodd anwyliaid a'r rhai oroesodd.

Mae amser wedi lleddfu'r rhwyg. Un sy'n deall y dilema ydi Cliff Minett.

Cafodd ei ferch, Gaynor Madgewick, ei hachub ond bu farw mab a merch arall iddo yn y drychineb.

"Dydi heddiw yn ddim gwahanol i unrhyw ddiwrnod arall," meddai.

"Dim ots os ydi hi'n flwyddyn neu 40 mlynedd - mae'r boen yr un peth a'r atgofion yr un mor glir.

"Fe fyddwn ni'n mynd i'r fynwent i gofio - ond bydd rhai yn aros adref.

"Ond allwn ni ddim anghofio'r hyn a ddigwyddodd yma yn Aberfan y diwrnod hwnnw."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^