Gwaeddodd cefnogwyr Mr Green 'Haleliwia!' wrth glywed canlyniad yr achos
|
Mae'r erlyniad wedi gollwng eu hachos yn erbyn ymgyrchydd Cristnogol gafodd ei arestio am rannu taflenni gwrth-hoyw yng Ngŵyl Mardi Gras Caerdydd.
Roedd Stephen Green, 55 oed o Gaerfyrddin, wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio geiriau bygythiol neu ddilornus, ond fe gafodd yr achos ei ollwng oherwydd diffyg tystiolaeth
Dywedodd Mr Green, cyfarwddwr y mudiad ymgyrchu efengylaidd Christian Voice, y tu allan i lys ynadon Caerdydd ei fod yn ystyried cymryd achos yn erbyn Heddlu'r De.
Mewn ymateb dywedodd yr heddlu ei bod â record dda o ran cefnogi rhyddid barn.
Pan gyhoeddodd ymgynghorydd cyfreithiol fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio â pharhau â'r achos fe waeddodd rhai o gefnogwyr Mr Green Haleliwia!" a churo dwylo.
Cafodd ei arestio ar ôl gwrthod stopio dosbarthu taflenni wrth fynedfa Gŵyl Mardi Gras ym Mharc Biwt yn gynharach fis Medi, gŵyl sy'n denu tua 40,000 o bobl.
'Achubiaeth'
Roedd y taflenni'r dyfynnu o'r Beibl ac yn dweud wrth bobl hoyw i "ymatal rhag pechu" er mwyn cael "achubiaeth".
Cafodd ei gyhuddo o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu ddilornus oedd yn debygol o aflonyddu neu achosi braw neu ofid ar ôl iddo wrthod derbyn rhybudd gan Uned Cefnogi Lleiafrifoedd y llu.
Gwadu'r cyhuddiad y gwnaeth Mr Green, gan honni fod y drefn yn amharu ar ei hawl i ryddid barn.
Dywedodd iddo gael ei drin yn "warthus" pan gafodd ei arestio gan addo y bydd yn dychwelyd i'r ŵyl nesa gyda mwy fyth o gefnogwyr.
"Dylai'r heddlu ganolbwyntio ar ddal troseddwyr yn lle pobl fel fi sy'n gweithredu'n gyfreithlon," meddai.
"Mae'n bwysig i Gristnogion allu amddiffyn yr Efengyl a gwrthsefyll unrhyw ymgais gan yr heddlu i sathru ar ein hawliau sifil.
Ychwanegodd: "Rwy'n falch fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gweld synnwyr a gollwng yr achos yma yn ei ddyddiau cynnar. Ni ddylai'r heddlu wedi fy arestio yn y lle cynta, heb sôn am fy nghyhuddo."
'Cableddus'
Daeth mudiad Christian Voice i amlygrwydd ym Mhrydain ar ôl ymgyrchu yn erbyn y sioe gerdd ddychanol Jerry Springer: The Opera ac roedd Mr Green wedi protestio y tu allan i Ganolfan y Mileniwm pan gafodd y sioe ei pherfformio yng Nghaerdydd.
Honnodd cyfreithiwr Mr Green, Mark Williams, fod yr heddlu wedi "camddefnyddio eu pwerau" wrth arestio arweinydd y mudiad, a dywedodd fod bwriad cychwyn camau cyfreithiol yn y llysoedd sifil.
Mae Heddlu De Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i arestio Mr Green, gan ddweud fod gan y llu record dda o ran cefnogi rhyddid barn a chaniatáu gorymdeithiau a phrotestiadau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl David Francis: "Yn ogystal, rydym yn falch iawn o'n safiad o ran cefnogi a gwarchod y rhai mwya bregus o fewn ein cymunedau, yn arbennig rheiny sy'n diodde rhagfarn ac anffafriaeth, aflonyddwch a hyd yn oed casineb."