Bu protest y tu allan i'r ffatri wedi drama
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni a dderbyniodd fwy na £660,000 o grantiau.
Yn Ebrill diswyddodd cwmni Dairygold 115 yn y ffatri bacio caws yn Felinfach ger Llanbedr Pont Steffan.
Yn ôl ymchwiliad BBC Cymru, cafodd peiriannau oedd wedi eu prynu ag arian grantiau eu gwerthu i ffatri bacio caws yn Sir Stafford yng Nghanolbarth Lloegr.
Mae'r BBC wedi gofyn i berchnogion y cwmni Gwyddelig, sy'n dweud eu bod wedi trafod ad-dalu grantiau, am sylwadau.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad i'r grant gael ei roi i Dairygold ym Mehefin 2002 er mwyn codi'r llinellau cynhyrchu o bedwar i chwech.
Daeth y prosiect i ben yn Mawrth 2004 ond o fewn 18 mis cyhoeddodd y cwmni gynlluniau i gau.
Cyfreithwyr
Oherwydd ymchwiliad rhaglen Manylu BBC Radio Cymru daeth yn amlwg fod y peiriannau gafodd eu prynu â'r grantiau wedi cael eu gwerthu i gwmni Kerrygold, sy'n rhan o gwmni Dairygold, ac yn cael eu symud i'w ffatri yn Leek, Sir Stafford.
Dywedodd Carwyn Jones, Gweinidog Materion Cefn Gwlad Cymru, fod llywodraeth y cynulliad wedi bod yn trafod â chyfreithwyr Dairygold.
Cyhoeddwyd 18 mis wedi'r gwaith gael ei gwblhau y byddai'r ffatri'n cau
|
"Ry'n ni wedi ceisio cael yr arian grantiau'n ôl ers misoedd ac ac ry'n ni'n ystyried pob llwybr, gan gynnwys y llwybr cyfreithiol," meddai.
"Ac ry'n ni am gael canlyniad positif ... dwi am i bawb ..., gan gynnwys cyn-weithwyr, wybod hyn - er bod y broses yn cymryd amser mae'n dal i fod yn flaenoriaeth."
Croesawodd Elin Jones, AC Plaid Cymru Ceredigion, y cyhoeddiad ond dywedodd ei bod am i lywodraeth y cynulliad ystyried prynu'r ffatri a rhentu unedau i gwmnïau lleol.
Yr wythnos ddiwethaf bu 300 yn protestio y tu allan i'r ffatri wedi drama am yr hyn a ddigwyddodd.