BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Medi 2006, 10:36 GMT 11:36 UK
Ffatri gaws: Poeni am daliadau
Caws (Llun cyffredinol)
Mae'r ffermwyr yn cyflenwi llaeth i'r ffatri sy'n cynhyrchu caws

Mae ffermwyr sy'n cyflewni ffatri Dansco yng Nghastell Newydd Emlyn wedi cysylltu ag Undeb Amaethwyr Cymru i ddweud nad ydyn nhw'n cael eu talu'n brydlon yn ddiweddar.

Datgelodd rhaglen materion cyfoes Radio Cymru, Llinyn Mesur, i'r cwmni gydnabod fod problemau wedi bod yn yr haf.

Ond mae'r cwmni wedi dweud fod y sefyllfa ariannol wedi gwella.

Trafod

Mae sefyllfa'r ffatri wedi bod yn destun trafod ymhlith ffermwyr ers misoedd.

Y cwmni, sy'n cynhyrchu caws Mozzarella, yn un o gyflogwyr mwya Dyffryn Teifi ac mae 140 o bobl yn gweithio yn y ffatri.

Ar ben hynny mae 160 o ffermwyr yn cyflenwi llaeth i'r cwmni.

Rhaid cael rhyw addewid pendant, clir eu bod nhw'n mynd i gael eu talu ar y dydd sy'n cael ei bennu bob mis
Peter Davies, Undeb Amaethwyr Cymru

Dywedodd Peter Davies o'r undeb fod y sefyllfa'n peri gofid i'r ffermwyr, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu'n helaeth ar eu cytundebau gyda'r cwmni i'w cynnal.

"Rhaid i'r llaeth gael ei gasglu'n ddyddiol a heb iddyn nhw gael eu talu maen nhw'n methu ag aros mewn busnes.

"Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd â nifer o aelodau ynglŷn â Dansco ac mae'r cyfarfodydd wedi bod yn adeiladol.

"Ond ar ddiwedd y dydd mae hyn yn nwylo Dansco ... i wneud yn siwr bod y cwmni'n edrych ar ôl y ffermwyr a bod y cwmni'n gwneud elw."

Colled yn 2004

Mae cofnodion ariannol y cwmni ar gyfer 2004 yn dangos ei fod wedi gwneud bron £750,000 o golled.

Doedd neb o'r cwmni ar gael i drafod pryderon y ffermwyr. Mewn llythyr at yr undeb mae'r cwmni wedi cydnabod iddyn gael problem llif arian dros fisoedd yr haf ond bod y sefyllfa ariannol yn fwy calonogol erbyn hyn.

Dywedodd Mr Davies fod rhai ffermwyr wedi dod â'u cytundebau â'r ffatri i ben ond bod y rhan fwya ohonyn nhw am weld y cwmni'n llwyddo.

"Maen nhw'n ffyddlon i'r cwmni ... maen nhw wedi bod yn gwerthu i Dansco ers nifer o flynyddoedd ond rhaid cael rhyw addewid pendant, clir eu bod nhw'n mynd i gael eu talu ar y dydd sy'n cael ei bennu bob mis.

115 o weithwyr

"Os can nhw'r addewid yna .... mae'r mwyafrif yn moyn sefyll gyda'r cwmni."

Yn Ebrill fe gaeodd cwmni Dairygold ei ffatri yn Felinfach, Dyffryn Aeron, gan ddiswyddo 115 o weithwyr.

Dywedodd y perchnogion mai amodau "anodd" y farchnad oedd wrth wraidd y penderfyniad.




HEFYD
Ffatri gaws: Protest
21 Medi 06 |  Newyddion
Diwrnod olaf i ffatri gaws
13 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^