BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Medi 2006, 10:27 GMT 11:27 UK
Protest wrth i gyngor gau ysgol
Ysgol Mynyddcerrig
Mae protestwyr wedi ymgyrchu i gadw Ysgol Mynyddcerrig

Wrth i gynghorwyr drafod dyfodol ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin bu protest fore Mercher y tu allan i'r pencadlys.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir i'r bwrdd gweithredol gymeradwyo cau Ysgol Gynradd Mynyddcerrig ger Cydweli.

Dadlwythodd aelodau Cymdeithas yr Iaith ddwy dunnell o gerrig mân wrth brif fynedfa cerbydau adeilad y cyngor sir.

Roedd wyth aelod y tu allan i'r adeilad a'r gwedddill y tu mewn wrth i'r cynghorwyr drafod cyn y penderfyniad terfynol.

Yr hyn y mae swyddogion yn ei wneud yw gweithredu strategaeth y sir ...
Y Cynghorydd Ieuan Jones, bwrdd gweithredol

Mae Cymdeithas yr Iaith a rhieni lleol wedi beirniadu dulliau ymgynghori swyddogion y cyngor.

Y cyngor llawn nid dim ond aelodau bwrdd gweithredol ddylai benderfynu tynged yr ysgol, medden nhw.

Ond dywedodd y cyngor ei fod wedi ystyried pryderon yr ymgyrchwyr yn fanwl.

Bore Mercher gyrrodd Ffred Ffransis, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dryc i gyfeiriad adeilad y cyngor sir.

Cafodd cerrig mân eu dadlwytho ond erbyn hyn maen nhw wedi cael eu clirio.

'Cynllun busnes'

"Cyn bod unrhyw awdurdod lleol yn gallu rhoi hysbysiad fod ysgol i gau, maen nhw i fod i ymchwilio i'r opsiynau eraill yn drwyadl," meddai Sioned Elin, cadeirydd y mudiad yn y sir.

Un opsiwn, meddai, fyddai ffedereiddio ysgol Mynydd Cerrig gydag ysgol gyfagos".

Dywedodd nad cyfrifoldeb llywodraethwyr gwirfoddol a rhieni oedd ffurfio "cynllun busnes manwl" ond mai cyfrifoldeb y cyngor oedd "gwneud ymchwil manwl i opsiynau eraill".

Mae'r mudiad, meddai, am alw ar bwyllgor craffu addysg y sir i "ymyrryd ym mhenderfyniad y bwrdd gweithredol".

Ond dywedodd y Cynghorydd Ieuan Jones, sy'n gyfrifol am addysg ar y bwrdd gweithredol, fod swyddogion wedi ateb cwestiynau'r rhieni a gwneud eu gwaith yn drylwyr.

Cyn bod awdurdod yn rhoi hysbysiad fod ysgol i gau, maen nhw i fod i ymchwilio i'r opsiynau eraill yn drwyadl
Sioned Elin, Cymdeithas yr Iaith

"Yr hyn y mae swyddogion yn ei wneud yw gweithredu strategaeth y sir oedd wedi cael ei phenderfynu dair blynedd yn ôl.

"Os bydd gyda ni ysgol o dros 200 o blant - mae'r gwariant ar bob plentyn lot yn llai na'r gwariant ar lond dwrn o blant mewn ysgol fach yn y wlad."

Os bydd y gwrthwynebu'n parhau, gweinidog addysg y cynulliad Jane Davidson fydd â'r gair ola ynglŷn â thynged yr ysgol.

Yng Ngorffennaf protestiodd cynrychiolwyr 12 o ysgolion y sir, Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru yn erbyn cynllun addysg y sir.




HEFYD
Mwy o ysgolion gwledig i gau?
19 Ebr 06 |  Newyddion
'Gwendidau' ysgol dan fygythiad
05 Gorff 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^