BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Medi 2006, 07:14 GMT 08:14 UK
Morgan: Annog agwedd 'mynd amdani'
Rhodri Morgan
Mae disgwyl i Mr Morgan ddweud bod y gorau eto i ddod

Mae Prif Weinidog y Cynulliad Rhodri Morgan yn paratoi i annog pobl Cymru i ddatblygu diwylliant 'mynd amdani'.

Mae disgwyl i Mr Morgan ddweud wrth gynhadledd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd bod y wlad yn cael ei gweld gan agweddau hen ffasiwn a negyddol.

Fe fydd Mr Morgan yn ceisio chwalu'r hyn y mae'n ei gredu ydi chwedlau digalon a di-sail am Gymru.

Dyma'r araith gyntaf o chwech y bydd Mr Morgan yn eu gwneud rhwng rwan a diwedd mis Mawrth 2007.

Dywedodd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Guto Thomas, bod yr anerchiad yn ymgais i osod agenda cyn etholiadau'r cynulliad ym mis Mai 2007.

Chwedlau

Dau o'r pynciau fydd yn mynd sylw Mr Morgan fydd yr economi a'r iaith Gymraeg.

Dywed bod yr agwedd bod Cymru yn llusgo y tu l i weddill Prydain yn economaidd yn chwedl.

Fe fydd Mr Morgan yn defnyddio cyflogaeth fel esiampl gan honni bod 'na ddirnadaeth ffug bod swyddi yng Nghymru fel arfer yn rhai sgiliau isel.

Mae disgwyl i Mr Morgan chwalu'r agwedd nad ydi Cymru yn cyflawni dim gan ddefnyddio Canolfan Mileniwm Cymru, Stadiwm y Mileniwm ac adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd i atgyfnerthu ei achos.

Dywed hefyd mai chwedl ydi bod yr iaith Gymraeg yn iaith y gorffennol a'i bod yn dirywio.

Mae disgwyl i Mr Morgan ganolbwyntio ar genedl o "fynd amdani" a bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnig cyfleuon newydd a bod y gorau eto i ddod.

"Mae hon yn ymgais glir gan Mr Morgan i osod agenda ei blaid cyn etholiadau'r cynulliad ym mis Mai ac i sefydlu Llafur fel y blaid fwya aeddfed i ffurfio'r Llywodraeth nesa," ychwanegodd Mr Thomas.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^