BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Medi 2006, 09:05 GMT 10:05 UK
Dathlu Diwrnod Glyndwr
Owain Glyndŵr
Owain Glyndŵr: Un o arwyr pwysicaf Cymru

Mae cyfraniad un o arwyr mwyaf Cymru, Owain Glyndŵr, yn cael ei ddathlu yn Amgueddfa Werin Cymru dros y penwythnos.

Yn y digwyddiad dau-ddiwrnod yn Sain Ffagan bydd modd gweld ail-greu bywyd gwersyll milwrol ddechrau'r 15fed ganrif a chlywed sgyrsiau am fywyd yr arwr.

Mae'r Prifardd Iwan Llwyd yn cynnal gweithdai barddoni fel rhan o'r dathliadau.

Mae digwyddiadau bob blwyddyn i goffu'r tywysog a frwydrodd am annibynniaeth i Gymru yn y 15fed ganrif ac a sefydlodd Senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth yn 1404.

Allweddol

Dywedodd Ken Brassil, Swyddog Addysg Amgueddfa Cymru, fod cyfraniad yr arwr yn hollbwysig a bod angen i bobl ddysgu mwy amdano ar Ddiwrnod Glyndŵr.

"Rydyn ni'n dathlu ar Fedi 16 oherwydd ar y diwrnod hwnnw yn 1400 daeth yn Dywysog Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn i groesawu pobl ifanc i fod yn rhan o'r dathlu.

"Byddwn yn cynnal cynhadledd fideo gydag Ysgol Llanwddyn a bydd ffilm gan Glwb Animeiddio Ysgol Gynradd Cwmfelinfach a enillodd wobr yng Nghystadleuaeth Etifeddiaeth Cymru."

Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa a'r digwyddiadau'n cychwyn am 10 y bore.

Ddydd Sadwrn mae baner Glyndŵr yn cyhwfan ar brif gestyll Cymru i nodi Diwrnod Glyndŵr - sef Caernarfon, Conwy, Caerffili, Cricieth a Harlech.




HEFYD
Glyndwr: Colli brwydr
27 Meh 06 |  Newyddion
Glyndwr: Disodli cerflun 'anaddas'
14 Meh 06 |  Newyddion
Glyndwr: Anelu at fuddugoliaeth?
04 Mai 06 |  Newyddion
'Angen rhoi llythyr Glyndwr yn l'
01 Ebr 06 |  Newyddion
Glyndwr wedi methu cyfle?
01 Maw 06 |  Newyddion
Baner Glyndwr yn cipio'r castell
12 Medi 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^