Byddai rhaid i glybiau rygbi a phêl-droed y dre ddod o hyd i gaeau newydd
|
Nos Iau pleidleisiodd mwy na 200 mewn cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cynllun i godi archfarchnad.
Mae datblygwyr wedi cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i holi a fyddai modd prynu caeau coffa Llanbedr Pont Steffan.
Dywedodd swyddogion y cyngor y byddai hwn yn gyfle i adfywio'r dre ond mae pobl leol yn erbyn am i'r caeau gael eu rhoi er cof am bobl leol gafodd eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd.
Cyngor Tre Llanbedr Pont Steffan drefnodd y cyfarfod er mwyn casglu'r farn gyhoeddus cyn trafod y mater ar Fedi 28.
Mae'r siambr fasnach yn erbyn y cynllun oherwydd ofnau y byddai archfarchnad arall yn newid cymeriad y dre ac yn bygwth siopau bach.
Symud clybiau
Byddai rhaid i glybiau rygbi a phêl-droed y dre symud a'r bwriad yw cynnig safle iddyn nhw "gyda chyfleusterau gwell".
Mae pryder y byddai codi archfarchnad yn golygu mwy o draffig.
Yn y cyfarfod nos Iau dywedodd swyddogion adran ddatblygu economaidd y cyngor sir fod datblygwr wedi dangos diddordeb yn y caeau a'i fod wedi trafod y cynnig gyda'r clybiau rygbi a phêl-droed.
Dywedodd Phillip Evans o'r cyngor fod unrhyw benderfyniad yn dibynnu ar ganlyniad asesiad effaith y datblygiad ar siopau'r dre, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.
Ond roedd angen denu mwy o bobl i Lanbed, meddai, gan fod siopwyr yn cael eu denu i drefi eraill fel Caerfyrddin.
'Dyletswydd'
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Keith Evans nad lle'r awdurdod oedd perswadio pobl leol i dderbyn y cynllun.
Ond roedd yn "ddyletswydd" ar yr awdurdod, meddai, i edrych ar gynigion sy'n dod i law a sicrhau "ffyniant a llwyddiant i drefi fel Llanbed" yn wyneb datblygiadau tebyg mewn trefi cyfagos.
Y bwriad yw cynnig cyfleusterau gwell i'r clybiau
|
Does dim statws cyfreithiol i'r bleidlais nos Iau ond dywedodd Mr Evans y byddai'r cyngor yn ei chymryd i ystyriaeth wrth drafod y mater.
Cafodd deiseb wedi ei harwyddo gan 2,500 o bobl ei chyflwyno yn y cyfarfod gan gyn faer y dre Noel Davies.
Dywedodd y cynghorydd sir Hag Harries nad oedd cynllun datblygu unedol y cyngor yn caniatáu codi archfarchnad ar y caeau.
Dim ond at ddefnydd cymunedol, addysg neu hamdden y gellid datblygu'r caeau, meddai.
Ond yn ôl cynrychiolydd cyfreithiol y cyngor, Richard Marks, ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd gan yr hen gyngor bwrdeistref i atal newid defnydd o'r caeau.