Mae'r clwb am weld mwy o arwyddion Cymraeg o amgylch y stadiwm
|
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam am ddenu mwy o gefnogwyr Cymraeg a rhoi lle mwy amlwg i'r iaith yn stadiwm y Cae Ras.
Yng nghyfarfod fforwm cefnogwyr y Dreigiau dywedodd y prif weithredwr newydd Anthony Fairclough fod potensial aruthrol i'r clwb wrth apelio at Gymry Cymraeg yn y gogledd a'r canolbarth.
Dywedodd eu bod yn trafod gosod arwyddion dwyieithog o gwmpas y stadiwm gan mai clwb Cymreig oedd Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Siôn Wynne o Fenter Iaith Maelor wedi dweud y byddai'r camau'n gwneud "gwahaniaeth mawr" ac yn "rhoi hyder yn ôl i bobl yr ardal sydd heb siarad yr iaith ers tro".
Cafodd Mr Fairclough ei benodi'n brif weithredwr pan ddaeth y clwb allan o ddwylo'r gweinyddwyr ddechrau Awst wedi 18 mis o ansicrwydd.
Cyfweliadau
Mae rhai'n poeni nad oes digon o chwaraewyr a swyddogion yn gallu rhoi cyfweliadau yn y Gymraeg ers i Wayne Phillips adael y clwb dair blynedd yn ôl.
Ar hyn o bryd does neb yn y garfan yn medru'r iaith er bod llawer yn dod o'r ardal.
Mae'r bwrdd sgorio yn croesawu ymwelwyr yn y Gymraeg yn achlysurol yn ystod gemau ac mae erthyglau Cymraeg yn cael eu cynnwys mewn rhaglenni.
Dywedodd Geraint Parry, y swyddog wasg, fod un o gefnogwyr selog y tîm wedi nodi pob arwydd yn y stadiwm er mwyn eu cyfieithu a bod y clwb am holi am grantiau ar gael i hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
"Pan fyddwn ni'n codi'r eisteddle newydd ymhen rhyw flwyddyn y gobaith yw y bydd pob arwydd yn ddwyieithog, popeth o'r toiledau i'r giatiau tro," meddai.
Sgarlets
Dywedodd fod pobl yn teithio o Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Phowys i wylio Wrecsam yn chwarae a bod modd dilyn esiampl tîm rygbi Sgarlets Llanelli, sy'n chwarae rhai o'i gemau yn y Cae Ras.
"Pan maen nhw'n dod yma mae popeth yn cael ei wneud yn ddwyieithog. Falle na fedrwn ni wneud popeth yn ddwyieithog ond mae 'na rai pethau yn sicr y medrwn ni eu gwneud.
"Er enghraifft, rydyn ni'n ystyried trefnu i gyhoeddi gwybodaeth ddwyieithog yn ystod gemau.
Mae bwrdd sgorio'r Cae Ras yn estyn croeso i gefnogwyr yn Gymraeg
|
"Mae llawer o bobl yr ardal yn gyndyn o gyfaddef eu bod yn medru'r Gymraeg er eu bod yn rhugl."
Erbyn hyn, mae mwy na 20,000 o bobl Sir Wrecsam - tua 14% o'r boblogaeth - yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Dywedodd Mr Wynne o Fenter Iaith Maelor y byddai'r datblygiad yn "gwneud gwahaniaeth mawr i hygrededd yr iaith yn yr ardal".
"Byddai'n dangos i bobl fod y Gymraeg yn rhan o fywyd cyfoes ac nid dim ond yn iaith y capel a'r corau.
"Bydd yn rhoi hyder yn ôl i bobl sydd heb siarad yr iaith ers tro ac sy'n meddwl nad ydi eu Cymraeg yn ddigon da mwyach."
Byddai'r iaith, meddai, yn arf ychwanegol i'r clwb farchnata ei hun.