BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Medi 2006, 21:02 GMT 22:02 UK
Ffilm Cymro'n agor yn y sinemâu
Marc Evans
'Dynol a doniol': Disgrifiad Marc Evans o Snow Cake

Mae wedi bod yn bosib gweld ffilm ddiweddara'r cyfarwyddwr o Gymru Marc Evans mewn sinemâu ar hyd a lled Prydain o ddydd Gwener ymlaen.

Cafodd y ffilm Snow Cake, sy'n cynnwys yr actorion Alan Rickman, Sigourney Weaver a Carrie-Anne Moss ei ffilmio yng Nghanada.

Mae rhai adolygwyr wedi canmol y ffilm gan ddweud mai dyma cynhyrchiad gorau'r cyfarwyddwr sy'n byw yng Nghaerdydd.

Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf trwy'r byd yng Ngŵyl Ffilm Berlin ym mis Chwefror.

Gwraig awtistig

Treuliodd Evans fisoedd yn nhre Wawa yng ngogledd Ontario yn cynllunio o flaen llaw ac oherwydd y galw am wasanaethau'r prif actorion bu'n rhaid ffilmio'r cyfan mewn 27 diwrnod.

Sigourney Weaver yn Snow Cake
Mae Sigourney Weaver yn chwarae rhan mam awtistig yn y ffilm

Adrodd y mae'r ffilm hanes Alex (Rickman) sy'n goroesi damwain a laddodd ferch ifanc.

Mae mam y ferch, Linda (Weaver) yn awtistig. Wrth ei helpu i drefnu'r angladd a chael perthynas fyrhoedlog â'r ddynes drws nesa (Moss), mae Alex yn dechrau gweld y byd drwy olau gwahanol ac yn dod i delerau â cholled yn y gorffennol.

Doedd dim angen llawer o berswâd ar y prif actorion i fod yn y cynhyrchiad a chymaint oedd ffydd Rickman yn y sgript, buddsoddodd ei arian ei hun yn y prosiect.

Mae Evans yn disgrifio'r ffilm yn un "dynol a doniol" ac fe wnaeth Sigourney Weaver wneud gwaith ymchwil i awtistiaeth am flwyddyn er mwyn portreadu cymeriad Linda.

"Be wnaethon ni oedd dewis cymeriad, nid trio cynrychioli pob agwedd o'r cyflwr," meddai Evans.

'Ffilm dyner'

"Mae o'n seiliedig ar berson go iawn ac mae o'n bortread cywir iawn o fath arbennig o awtistiaeth."

Carrie-Anne Moss ac Alan Rickman yn Snow Cake
Carrie-Anne Moss ac Alan Rickman yn Snow Cake

Yn ôl y beirniad ffilm Gary Slaymaker dyma ffilm orau'r Cymro hyd yn hyn. "Mae o'n ffilm dyner gyda stori hynod o afaelgar," meddai.

"Mae 'na chwerthin a llefain ac mae o'n gweithio mor dda. Mae'r actorion yn wych hefyd."

Mae ffilmiau blaenorol Evans yn cynnwys House of America, Resurrection Man, Camgymeriad Gwych, My Little Eye, Dal: Yma / Nawr a Trauma.

Ymhlith ei brosiectau nesa mae The Dead Wait gyda'r actor Colin Firth a ffilm Caitlin am wraig y bardd Dylan Thomas gyda Miranda Richardson a Michael Sheen yn actio'r cwpl.




HEFYD
Cymro: 'Braint' agor gwyl Berlin
09 Chwef 06 |  Newyddion
Prif wobr i ffilm Gymraeg
04 Ebr 04 |  Newyddion
Ffilm Gymraeg yn Efrog Newydd?
24 Tach 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^