BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Medi 2006, 13:05 GMT 14:05 UK
Cannoedd yn angladd Syr Kyffin
Angladd Syr Kyffin
Bu'r angladd yn Eglwys Gadeiriol Bangor

Bu mwy na 600 yn angladd yr arlunydd Syr Kyffin Williams ddydd Llun yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, arweiniodd y gwasanaeth i'r arlunydd o Ynys Mn fu farw ar Fedi 1 yn 88 oed - arlunydd Cymreig mwya ei oes.

Roedd teyrngedau oddi wrth yr Athro Derec Llwyd Morgan a Nicholas Sinclair, mab bedydd Syr Kyffin.

"Y mae rhai pobl wedi dod i'r Gadeirlan hon heddiw am eu bod wedi colli cyfaill hoff yr oedd ei gwmnaeth yn rhan bwysig o ddifyrrwch eu byw," meddai'r Athro Morgan.

'Athrylith'

"Y mae eraill yma am eu bod yn edmygu'r ymadawedig am ei waith.

"Yr ydym oll yma i ffarwelio'n gyhoeddus gydag arlunydd y mae ei athrylith, ers yn agos i drigain mlynedd, wedi rhoi inni adnabyddiaeth artistig ardderchog o lawer agwedd ar ein bodolaeth."

Syr Kyffin Williams
Bu farw Syr Kyffin Williams ar Fedi 1

Mr Sinclair y ffotograffydd dynnodd luniau o waith yr arlunydd ar gyfer ei lyfrau.

"Roedd yn ddyn caredig a ffraeth, artist Cymreig mwya ail hanner y ganrif ddiwetha.

"Gadawodd Ysgol Gelf Slade yn 1944 ac erbyn haf 1948 gwyddai beth yr oedd am ei wneud.

"Roedd yn adnabod ei destun yn llwyr, pobl Cymru a thirlun Cymru, ac roedd yn driw i'w weledigaeth am 60 mlynedd. Ac roedd hyn yn rhyfeddol."

Ymhlith y galarwyr roedd Ardalydd a Boneddiges Mn, Alexander Paget Iarll Uxbridge, Arglwydd ac Arglwyddes Crughywel.

Yno yr oedd nifer o arlunwyr o Gymru, gan gynnwys David Griffiths, William Selwyn, Rob Piercy, Keith Andrew a Keith Bowen.

Mozart

Canodd Bryn Terfel "My Little Welsh Home" yn ystod y gwasanaeth i gyfeiliant y delynores Elinor Bennett.

Perfformiodd cr yr Eglwys Gadeiriol berfformio waith Mozart, Ave Verum Corpus.

Wedi'r gwasanaeth aeth yr hers i'r fynwent yn Llanfair-yng-Nghornwy ger Cemaes, Ynys Mn.

Bu farw Syr Kyffin ar l diodde o gansyr mewn cartref nyrsio yn Ynys Mn.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^