£8.3m yw cyfanswm cost codi'r caffi newydd
|
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu defnyddio gwenithfaen o Gymru i godi walydd a lloriau allanol adeilad newydd ar gopa'r Wyddfa.
Bydd prynu'r garreg o chwarel Cwt y Bugail ger Blaenau Ffestiniog yn golygu £56,000 ychwanegol at y gost o godi'r caffi ar ben y mynydd.
Roedd anghytuno ynghynt yn y flwyddyn oherwydd penderfyniad i ddefnyddio gwenithfaen o Bortiwgal ar do'r caffi.
Mewn cyfarfod arbennig ddydd Mercher clywodd pwyllgor cynllunio'r awdurdod am y prosiect fydd yn costio £8.3m i gyd.
Clywodd y cyfarfod fod y contractwyr Carillion wedi cynnig cyflenwi'r garreg ar gyfer walydd a phafin platfform yr adeilad newydd o dair ffynhonnell wahanol.
Cytunodd aelodau'r awdurdod ag argymhelliad swyddogion i wario £56,000 ychwanegol er mwyn defnyddio'r ffynhonnell leol os oedd caniatâd cynllunio yn cael ei dderbyn.
'Hir a chymhleth'
Mae'r pwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo pedair sampl o gerrig o dair ffynhonnell wahanol ar y sail eu bod yn addas o ran lliw a gwead.
Wedi'r cyfarfod dywedodd prif weithredwr yr awdurdod Aneirin Phillips fod y broses wedi bod yn "hir, anodd a chymhleth".
"Oherwydd cyfyngiadau deddf Ewropeaidd ni fu'n bosib i ni fynnu bod deunydd ar gyfer yr adeilad newydd yn dod o ffynonellau lleol," meddai.
Cafodd y caffi presennol ei godi dros 70 mlynedd yn ôl
|
"Mae'r contractwr yn gwybod ein bod ni fel awdurdod yn awyddus i ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau lleol â phosib.
"Yn anffodus, fel awdurdod cyhoeddus, ni chawn fynnu bod contractwr yn dewis un cyflenwr lleol, neu'n ffafrio un yn fwy na'r llall.
"Fel yn achos y to," meddai "rhoddwyd cyfle cyfartal i chwareli lleol ddarparu'r gwenithfaen.
"Yng ngoleuni hyn felly, mae'n braf cael cyhoeddi mai chwarel Cwt y Bugail ger Blaenau Ffestiniog fydd yn darparu'r rhan fwyaf o'r garreg ar gyfer codi'r adeilad newydd ..."
'Camp anhygoel'
Mae'r awdurdod yn rhagweld y bydd mwy na 60% o'r defnyddiau, llafur a thrafnidiaeth yn lleol.
Dywedodd Mr Phillips fod hynny "mewn lleoliad mor unigryw ag anodd â chopa'r Wyddfa ... yn gamp anhygoel".
Cost dymchwel yr adeilad 70-oed a chodi canolfan newydd yn ei lle yw £8.3m ond bydd rhaid i'r gwaith orffen erbyn dechrau haf 2008 er mwyn cael grant oddi wrth Ewrop.
Bydd y Swyddfa Gyllid Ewropeaidd yn rhoi grant Amcan Un o fwy na £4.2m at yr adeilad ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu £3m.
Datblygiadau
Clywodd aelodau'r awdurdod am nifer o ddatblygiadau diweddar ddydd Mercher:
Mae seidin a ffordd fynediad bron â chael eu cwblhau yn Llanberis a bydd hyn yn hwyluso'r gwaith llwytho a dadlwytho deunyddiau. Mae'r cwmni rheilfordd wedi adeiladu wagen ar gyfer cludo deunyddiau i'r copa.
Bydd Carillion yn meddiannu'r adeilad presennol ar y copa ar Fedi 11. Bydd gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad, Carwyn Jones a Sue Essex, yn arwain seremoni "Dechrau'r Dymchwel" ar Fedi 12.
Y nod yw gorffen y gwaith dymchwel a chlirio cymaint o ddeunydd o'r mynydd â phosib cyn diwedd y gaeaf. Bydd y gwaith o godi'r adeilad rhagsaernïol yn dechrau mewn stordy ar Lannau Dyfrdwy mewn ychydig o wythnosau.
Mae gwybodaeth am y cynllun, cyngor i gerddwyr a theithwyr ar y trên yn y prif bwyntiau mynediad o gwmpas y mynydd, y bwytai, hosteli Ieuenctid, canolfannau croeso a gwefan yr awdurdod.
O hyn ymlaen bydd y trenau ond yn teithio hanner ffordd i'r copa ac mae rhybudd i gerddwyr nad oes lloches iddyn nhw am gyfnod ar ben y mynydd.