BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Medi 2006, 05:57 GMT 06:57 UK
'Dim ysmygu ar dir ysbytai'
Ysmygu tu allan i ysbyty
Dylai cleifion nac ymwelwyr ddim tanio sigarets ar dir Ysbyty Wrecsam Maelor

Dylai ysmygu gael ei wahardd o diroedd ysbytai a'r adeiladau pan ddaw'r ddeddf atal ysmygu i rym yn 2007, medd meddygon.

Mae'r Gymdeithas Feddygol yng Nghymru am i Lywodraeth y Cynulliad gynnwys llefydd tu allan i'r ysbytai yn y ddeddf.

Er bod y gymdeithas yn derbyn y gallai hyn achosi "anghyfleustra" i ysmygwyr, gallai fod yn hwb iddyn nhw roi'r gorau i ysmygu, meddai.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y bydden nhw'n ystyried y cynnig yn ofalus.

Yn ystod haf 2007 y daw'r ddeddf atal ysmygu yn y gweithle a llefydd cyhoeddus i rym ond mae llywodraeth y cynulliad yn trafod ar hyn o bryd rai manylion, gan gynnwys eithriadau a rhai llefydd fydd yn cael eu cynnwys.

'Anghyfleustra'

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddai'r holl sylwadau yn cael eu hystyried yn ofalus a bod gan yr ymddiriedolaethau iechyd y pŵer i wahardd smygu ar eu tiroedd.

Eglurodd Dr Richard Lewis, ysgrifennydd BMA Cymru, bod y llywodraeth wedi cymryd camau enfawr yn barod drwy hyrwyddo'r gwaharddiad ond ychwanegodd nad oedd modd "colli cyfle" i atal ysmygu ar dir ysbytai.

"Rydym yn derbyn y bydd hyn yn achosi anghyfleustra i ysmygwyr cyson, yn gleifion a staff," meddai.

No smoking sign
Ers mis Mehefin does dim modd ysmygu ar dir ysbytai'r ymddiriedolaeth

"Ond mae ysbytai yn lle i wella - nid i gynyddu'r posibilrwydd o gael afiechyd arall.

"Mae nifer helaeth o ysmygwyr am roi'r gorau iddi ac fe fyddai hyn yn eu helpu.

"Dydi'r polisi yma ddim wedi ei fwriadu i gosbi ysmygwyr."

Eisoes mae Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Ddwyrain Cymru wedi gweithredu'r hyn y mae'r BMA yn ei hyrwyddo.

Er hyn dydi'r mesur ddim wedi rhwystro pobl rhag ysmygu y tu allan i Ysbyty Wrecsam Maelor er gwaetha arwyddion yn eu rhybuddio i beidio â thanio sigarét.

"Doeddwn i ddim yn gwybod nad oeddwn i fod i beidio ag ysmygu y tu allan," meddai'r ymwelydd Derek Mort o'r Wyddgrug.

"Dwi yma yn aros i fy nhad farw ac angen sigarét.

"Roedd ganddyn nhw ystafelloedd ysmygu tu mewn ers talwm. Lle arall dwi fod i ysmygu?"

Dywedodd claf yn yr ysbyty, Susan Rowlands o Wrecsam, ei bod yn aros i adael yr ysbyty ac yn cael sigarét.

"Dwi ddim yn gwneud unrhyw niwed i neb."

Yn ôl rheolwr cefnogi corfforaethol yr ymddiriedolaeth, Andrew Scotson, er bod ysmygu wedi ei gyfyngu i du allan i'r ysbyty mae'r mwg yn dal i dreiddio i mewn drwy'r ffenestri a'r drysau.

'Amheus'

"Oherwydd hyn fe wnaethon ni benderfynu mai'r unig ffordd effeithiol oedd gwarchod y staff a'r cleifion oedd atal ysmygu ar ein safleoedd.

"Er nad ydan ni wedi cael cydymffurfio llwyr eto mae nifer y rhai sy'n ysmygu ar y safle wedi gostwng ac fe fyddwn ni'n parhau i atgoffa ysmygwyr o'n polisi a gofyn iddyn nhw barchu hyn tra eu bod ar ein tir."

Amheus oedd Michael Summers, ymddiriedolwr Cymdeithas y Cleifion, a fyddai hyn yn gallu cael ei orfodi.

"Rydym o blaid gwaharddiad ysmygu yn y gweithle. Ond a oes modd ei ymestyn i diroedd agored, mae'n ddadleuol," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod a oes modd gorfodi gwaharddiad mewn lle agored. Dwi ddim yn credu y bydd yn gweithio.

"Mae 'na ffin denau rhwng dweud wrth rywun i beidio ag ysmygu mewn adeilad am ei fod yn ddrwg i iechyd rhywun a dweud nad oes modd ysmygu yn yr awyr agored."




HEFYD
Gwobrau i annog atal ysmygu
27 Chwef 05 |  Newyddion
Gwahardd smygu: £50 o ddirwy
21 Gorff 06 |  Newyddion
Cytuno i wahardd ysmygu gartre
16 Mai 06 |  Newyddion
Gweithwyr 'ddim i smygu'
11 Tach 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^