BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Awst 2006, 11:27 GMT 12:27 UK
AC: 'Angen trafod rl tywysog'
Peter Black
Mae Mr Black am drafodaeth gyhoeddus

Mae Aelod Cynulliad wedi dweud fod amgylchiadau newydd yn golygu y dylid codi cwestiynau am swyddogaeth Tywysog Cymru.

Ar ei wefan mae'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black wedi dweud fod angen trafodaeth y rl yn gyhoeddus.

Yn sgl y cyhoeddiad fod y Tywysog William wedi ei benodi'n is-noddwr Undeb Rygbi Cymru, mae Mr Black sy'n cynrychioli De-orllewin Cymru yn gofyn a ddylai fod tywysog nesa.

"Mae Cymru'n lle gwahanol iawn i'r hyn yr oedd yng nghyfnod Edward I pan greodd y swydd i dawelu'r Cymry.

"Ac mae'n gyfnod gwahanol i'r hyn yr oedd ar Orffennaf 1, 1969, pan gafodd y Tywysog Charles ei arwisgo."

Pwerau

Dywedodd Mr Black fod y Cynulliad Cenedlaethol am gael mwy o bwerau.

"Rhaid gofyn y cwestiwn felly a ydy'n addas i gael Tywysog Cymru newydd ac os felly beth ddylai ei rl fod?

"Mae'n rhaid cael trafodaeth gyhoeddus cyn gwneud penderfyniadau am William."

Fe fydd y Tywysog William yn dechrau ei waith gyda'r undeb rygbi yn Chwefror 2007.

'Canolog'

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd" a bod "rygbi yn rhan mor ganolog o fywyd yng Nghymru.

"Rwy'n gobeithio gallu cyfrannu mewn rhyw ffordd at ddatblygiad y gm, ar lefel gymunedol ac ar y llwyfan rhyngwladol."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^