Mae Castle Cement wedi buddsoddi £72m yn y safle yn Padeswood
|
Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn dechrau yn Sir y Fflint i benderfynu a ddylai cwmni gael yr hawl i gladdu llwch odyn ar safle.
Cafodd cais cwmni Castle Cement yn Padeswood ger Yr Wyddgrug ei wrthod gan Gyngor Sir y Fflint ac mae'r ymchwiliad cyhoeddus yn cychwyn ddydd Mercher.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn symud y llwch sy'n cael ei gynhyrchu mewn odyn newydd o'r safle i'w waredu.
Ond mae'r cwmni am safle tirlenwi ar gyfer y llwch ar eu tir eu hunain ac yn dadlau y byddai hynny'n fwy diogel.
Er hynny, mae pryder yn lleol ynglŷn â'r datblygiad.
Cemegau
Wrth wrthod y cais roedd y cyngor sir wedi dweud y gallai'r llwch lygru'r dŵr gerllaw.
Am flynyddoedd mae gwrthwynebiad yn lleol wedi bod i gynlluniau Cwmni Castle Cement i godi odyn newydd.
Mae'r cwmni am gladdu'r llwch ar eu safle
|
Ond cafodd yr odyn gwerth £60m ei chodi ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Mae'r llwch yn cael ei ystyried yn beryglus oherwydd y cemegau sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod y broses o losgi yn yr odyn.
Mae'r cwmni am safle tirlenwi i gladdu hyd at 10,000 tunnell o lwch bob blwyddyn yn lle ei symud oddi ar y safle.
Llifo i'r afonydd
Union flwyddyn yn ôl y cafodd y cais cynllunio ei wrthod gan y cynghorwyr oherwydd pryder am effaith bosib ar yr amgylchedd.
Un o'r trigolion lleol sy'n poeni ydi John Rosser o bentref Penyffordd gerllaw'r safle.
"Ar ôl y frwydr yn erbyn yr odyn yn y lle cyntaf roeddem yn teimlo mai dyna'r diwedd ar y datblygiadau eraill ond nawr mae'n dipyn o sioc i glywed eu bod yn bwriadu claddu'r gwastraff gwenwynig yma ar y safle.
"Yr hyn sy'n poeni pobl ydi bod cwrs dŵr yn rhedeg ger y safle a'r pryderon ydi nad oes ots pa mor ofalus y byddan nhw - mae'n bosib i'r llwch fynd i mewn i'r dŵr a llifo i'r afonydd ... ac achoi problemau nes ymlaen."
Dywedodd y cwmni y byddai claddu'r llwch ar eu tir eu hunain yn llai niweidiol i'r amgylchedd gan na fyddai'n rhaid cludo'r llwch o'r safle ac y byddai llai o lorïau ar y ffordd fawr.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus ym Mhenyffordd barhau am dridiau.