Daeth y lorïau cynta â sbwriel i'r chwarel fore Mercher
|
Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae protestwyr wedi casglu y tu allan i safle tomen sbwriel i geisio atal lorïau rhag mynd â gwastraff yna.
Ddydd Mercher fe agorodd y tomen yn chwarel Hafod ym mhentre Johnstown ger Wrecsam er mwyn derbyn sbwriel o Gymru a Glannau Mersi.
Rhoddwyd hawl cynllunio i ddefnyddio'r chwarel i dirlenwi 11 mlynedd yn ôl ond mae pobl leol wedi ymgyrchu'n frwd i'w atal.
Dywedodd Mersey Waste Holdings Associates, fydd yn claddu miliynau o dunnelli o wastraff yn y chwarel, ei fod yn "gweithredu'n gwbl briodol".
Mae Cyngor Wrecsam yn dweud y bydd yn gwrando ar gwynion os nad ydi'r cwmni'n cadw at amodau'r drwydded dirlenwi.
Trwydded
Roedd tua 20 o brotestwyr yn aros am y lorri gynta am 0700 fore Iau ond fe wnaeth yr heddlu symud dau ymgyrchydd a orweddodd o'i blaen i'w rhwystro rhag mynd i'r safle.
Dywed protestwyr y bydd yr ymgyrch yn parhau
|
Poeni mae'r ymgyrchwyr am effaith y tirlenwi ar fywyd gwyllt yn y chwarel ac ar fywydau pobl leol ac fe roedden nhw wedi gofyn am ohirio rhoi trwydded i'r cwmni.
Dywedodd Adam Phillips: "Dw i yma i wrthwynebu ac i helpu'r brotest ac mi wna' i sefyll neu orwedd o flaen o lorïau os bydd rhaid."
Ychwanegodd Gwyneth Jones, "Dydan ni ddim wedi colli'r frwydr. Mae angen i bobl gyffredin ddweud 'Dydach hyn ddim yn ddigon da, dydach chi ddim yn mynd i halogi'r pentre 'ma'."
Mae'r protestwyr am barhau i brotestio nes y bydd Cyngor Wrecsam yn cwrdd fis nesa i benderfynu os dylid addasu neu ddileu'r drwydded er mwyn gwarchod ardal gadwraeth arbennig sy'n rhan o'r safle.
Dywedodd Cyngor Wrecsam y gallai'r gwaith tirlenwi gychwyn ond fe fydd yr awdurdod yn nodi unrhyw gwynion os nad ydi'r cwmni'n glynu at amodau'r drwydded roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae cwmni MWH Associates yn casglu sbwriel ar ran Cyngor Lerpwl a phedwar awdurdod lleol cyfagos ond mae'r chwarel hefyd yn derbyn gwastraff gan gynghorau o Gymru.