Fe ddaeth Glyn yn ail yn rhaglen Big Brother 2006
|
Ar ôl 93 diwrnod mae'r Cymro Glyn Wise wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Big Brother nos Wener.
Fe gyrhaeddodd y llanc 18 oed o Flaenau Ffestiniog y ffeinal wedi i'r gyfres gael ei darlledu am 13 wythnos.
Roedd y ras yn y diwedd rhwng Glyn a Pete am y wobr ariannol o £100,000.
Dywedodd Glyn cyn gadael y tŷ ei fod wedi "mwynhau'r holl brofiad" a'i fod yn un o'r "pethau gorau a wnaeth".
Aeth i mewn i'r tŷ yn ddisgybl 6ed dosbarth ifanc ond yn ystod yr wythnosau mae wedi cael ei weld yn aeddfedu.
Cyrhaeddodd y ffeinal gyda Pete, Nikki, Richard, Jennie ac Aisleyne.
Ar ddechrau'r noson fe adawodd Jennie yn y chweched safle yna Nikki, Richard ac Aisleyne yn drydydd.
Pete Bennett ddaeth i'r brig.
Wrth gael ei holi gan Davina McCall wedi iddo adael y tŷ dywedodd Glyn ei fod wedi "tyfu fyny".
"Dwi wedi dysgu coginio, ŵy wedi ei ferwi a sbageti ar dost.
"Mae hi'n bwysig i mi i gadw'r iaith Gymraeg ac mae angen i'r Cymry Cymraeg gario 'mlaen i siarad yr iaith."
'Angerdd'
Dywedodd cyn iddo fynd i mewn ei fod eisiau i bopeth fod yn Gymraeg "ond rwan dwi am weld y byd, gweld pobl wahanol a phopeth fel yna", ychwanegodd y llanc oedd yn gwisgo crysau-t Cymru.
Fe aeth Glyn i mewn i'r ty yn fachgen ifanc
|
"Roedd hi'n anodd siarad Saesneg i ddechrau ond fe wnes i ddod i arfer."
Derbyniodd neges arbennig gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ddywedodd ei fod yn "ysbrydoliaeth i bobl ifanc yng Nghymru".
"Mae'ch angerdd a'ch cariad tuag at eich gwlad a'r iaith wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc eraill ac rydych yn sicr wedi rhoi Blaenau Ffestiniog a Chymru ar y map.
"Mae eich sgyrsiau yn y tŷ gydag Imogen yn sicr wedi codi proffil o'r iaith Gymraeg i gynulleidfa newydd drwy'r byd."
Ychwanegodd Mr Morgan ei fod yn dymuno'n dda i Glyn yn y brifysgol ac yn ei yrfa yn y dyfodol.
Fe aeth Glyn i'r tŷ cyn eistedd ei arholiadau Safon Uwch terfynol yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, lle'r oedd yn brif ddisgybl.
Cefnogaeth
Dydd Iau fe gafodd ei ganlyniadau ac mae Glyn wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Cymru Bangor.
Dywedodd wedi gadael y tŷ ei fod yn dal yn awyddus i fynd i'r brifysgol er mwyn mynd yn athro "a dysgu Cymraeg i'r rhai sydd ddim yn gallu siarad er mwyn iddyn nhw deimlo'n gartrefol yng Nghymru."
Fe wnaeth Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, yrru neges i Glyn hefyd, yn diolch iddo am ei gefnogaeth, ac yn ei longyfarch am ei onestrwydd naturiol, ac am fod yn llysgennad mor effeithiol a diffuant dros Gymru a'r Gymraeg.
Roedd cannoedd ym Mlaenau Ffestiniog i ddangso cefnogaeth
|
Nos Wener cafodd rhaglenni arbennig eu darlledu ar Radio Cymru ac ar S4C o Flaenau Ffestiniog.
Roedd rhai cannoedd yno mewn parti i gefnogi Glyn wrth iddo aros am ei dynged.
Roedd aelodau o'i deulu yn y dathliad ar gae rygbi Bro Blaenau nos Wener gyda'i rieni a'i ddwy chwaer wedi mynd i lawr i Lundain.
Yn ystod y gyfres fe wnaeth Glyn ffurfio cyfeillgarwch gyda'r Gymraes o Lanelli, Imogen Thomas.
Fe adawodd hi'r tŷ yr wythnos diwethaf.
Ar ddechrau'r gyfres cafodd y ddau gerydd gan y Brawd Mawr am siarad Cymraeg ond fel aeth y ddau ymlaen i siarad yn eu mam iaith gyda'r gwylwyr di-Gymraeg yn darllen yr is-deitlau.
Roedd cyfeillion Glyn, cyd-ddisgyblion, trigolion Blaenau, ei brifathro a theulu Imogen yn y dathliad ym Mlaenau Ffestiniog i ddangos eu cefnogaeth.