Beirniad y wobr: 'Nofel sylweddol' gan awdures sy'n 'hanesydd gwybodus'
|
Mae gwraig o Wynedd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen gyda'i nofel gyntaf i oedolion.
Enillodd Gwen Pritchard Jones o Bant-glas y wobr o £5,000 ddydd Mawrth.
Roedd nofel yr awdures â'r ffugenw Ebolion yn y 17eg ganrif, yn cynnwys elfennau o serch ac antur ac wedi ei seilio ar ddigwyddiadau a chymeriadau hanesyddol.
Bu'r awdur am gyfnod o 20 mlynedd yn paratoi - yn ymchwilio ac yn ysgrifennu'r nofel.
'Nofel sylweddol'
Dywedodd un o'r beirniaid Branwen Jarvis fod hon yn "nofel sylweddol" a'r awdures yn "hanesydd gwybodus".
Roedd y nofel, meddai'r awdures, wedi ei gosod ym 1641 a'r prif gymeriad Catrin Bodwrda yn ceisio ymchwilio i lofruddiaeth ficer Aberdaron flynyddoedd ynghynt, ym1624.
Daeth Gwen Pritchard Jones i'r brig gyda'i nofel gyna ar gyfer oedolion
|
Yn enedigol o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle, bu Mrs Jones yn athrawes gynradd yng Ngwynedd, yn cadw stondin mewn marchnad, yn rhedeg cwmni arlwyo ac yn gweithio yn y BBC.
Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio'r gyfraith cyn mynd i'r Coleg Normal ym Mangor i astudio i fod yn athrawes.
Roedd y gystadleuaeth eleni yn "wan," meddai Ms Jarvis ond byddai Ebolion "wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth gryfach".
Dim ond pedair nofel oedd yn y gystadleuaeth, meddai.