Creu ffrwydradau ar y Maes yn ystod y lansiad
|
Ar y Maes ddydd Mawrth roedd 'na ffrwydradau yn un o'r pebyll.
Cafodd y ffrwydradau a'r mwg eu creu er mwyn nodi cyhoeddi Tabl Cyfnodol yr Elfennau yn y Gymraeg.
Roedd y cyfan, a chynhyrchu'r hufen iâ cyflymaf, ar gael ym mhafiliwn Prifysgol Cymru Bangor ar y Maes.
Gobaith cynhyrchwyr y tabl newydd lliwgar, yw cyfoethogi profiadau disgyblion ysgol wrth ddysgu Cemeg.
Dywedodd Meri Huws, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym yn ceisio gwneud hi'n haws i astudio drwy'r Gymraeg ac mae cyhoeddi'r tabl yma yn cyfoethogi'r disgyblion a'r athrawon.
"Rwy'n hynod o falch bod y coleg wedi creu'r tabl yma ac fe fydd ar gael ar ffurf poster neu gerdyn post.
"Mae'n arwain gobeithion at fwy yn astudio Cemeg mewn dwy iaith."
Yn y babell roedd Dr Robyn Wheldon-Williams a'i dîm o'r Sioe Gemeg yn gwneud nifer o arbrofion cyffrous.
Roedden nhw'n ceisio gwneud yr hufen iâ cyflymaf gyda chymorth nitrogen hylifol ac yn creu ffrwydradau.
Aron Morgan Jones o Lanbedr, Harlech sy'n blasu'r hufen ia
|
Mae Dr Wheldon-Williams yn athro cemeg yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ac yn gyn-fyfyriwr o'r ysgol gemeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor.
Y flwyddyn nesaf bydd yn gweithio am ddiwrnod yr wythnos ym Mhrifysgol Bangor er mwyn hyrwyddo cemeg i ysgolion Cymru.
"Mae cael tabl cyfnodol yr elfennau yn Gymraeg yn hanfodol i wersi gwyddoniaeth, mae'r ffaith ei fod yn lliwgar ac yn broffesiynol yn mynd i gyfoethogi'r profiad i ddisgyblion Cymraeg eu hiaith.
"Mae'r lansiad yn gam cyntaf ymgyrch gan ysgol gemeg y brifysgol i gyfrannu at ddysgu cemeg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion.
"Mae hefyd yn rhan o ymgyrch ehangach, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Techniquest i godi proffil cemeg mewn ysgolion,"
Ychwanegodd Ms Huws y bydd disgyblion chweched dosbarth ysgolion uwchradd yn cael cyfle i ymweld â'r brifysgol y flwyddyn nesaf er mwyn cael profiadau ymarferol.
"Fe fydd 200 o fyfyrwyr yn ymweld â'r Ysgol Gemeg ar gyfer diwrnod ymarferol yn y labordai, lle fydden nhw'n defnyddio'r cyfarpar a thechnegau diweddaraf mewn gwaith sy'n cyd-fynd â'r cwrs Cemeg lefel A."