Mrs Roberts oedd awdures y gyfres deledu Minafon
|
Y llenor Eigra Lewis Roberts sydd wedi ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.
Cafodd Mrs Roberts o Ddolwyddelan yng Nghonwy ei choroni yn ystod y seremoni ddydd Llun am ei gwaith Y Ffarwel Perffaith am fywyd stormus y bardd Sylvia Plath.
Y beirniaid Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis benderfynodd mai ei dilyniant o gerddi ar y testun y Fflam oedd yn fuddugol.
Y fenyw o Flaenau Ffestiniog yw'r chweched i ennill y Goron. Mae'n awdur cynhyrchiol ac wedi ysgrifennu 27 o gyfrolau.
Cafodd y Goron ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands.
'Bardd medrus'
Yn ystod y seremoni dywedodd yr Archdderwydd Selwyn Iolen y byddai Dafydd Rowlands wedi bod yn "hynod o falch" o'i llwyddiant.
Ffugenw Mrs Roberts oedd Gwyfyn. Dywedodd y beirniaid fod ei gwaith yn "gasgliad o gerddi cywrain gan fardd medrus a lwyddodd i greu cerddi cyfoethog am un o feirdd mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif; un a drodd ei bywyd fel ei marwolaeth yn drasiedi fawr."
Mae gan Mrs Roberts dri o blant, Sioned, Urien a Gwydion, a 12 o wyrion ac wyresau. Ei gŵr hi yw Llew.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd yn 20 oed.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974. Hi oedd awdures y gyfres deledu Minafon.
Roedd dathliad dwbl ddydd Llun gan ei bod hi'n dathlu ei phen-blwydd.