Rhodri Morgan a'i frawd Prys Morgan ar Faes yr Eisteddfod
|
Mae angen i'r Brifwyl ddal i ymestyn ei hapêl er ei bod wedi cymryd camau sylweddol ymlaen, meddai Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Rhodri Morgan mewn cynhadledd newyddion ar y Maes ddydd Llun na fyddai'n mynnu sut y byddai hyn yn digwydd.
"Nid lle'r llywodraeth fydd gosod canllawiau, mater i'r Eisteddfod yw hyn," meddai.
Yn y gynhadledd roedd brawd Mr Morgan, Yr Athro Prys Morgan, a fu'n sôn am berthynas y teulu â bro'r Eisteddfod.
Dywedodd y ddau y byddai ymestyn yr apêl yn bwsig i barhâd y Brifwyl.
 |
Os ydyn nhw'n gofyn am arian cyhoeddus mae'n ddyletswydd arnom i gynnig canllaw eu bod yn ymestyn yr apêl i gymaint ag y gallen nhw
|
Pan gafodd ei holi dywedodd Mr Morgan na fyddai amser yn dod pan fyddai'r llywodraeth yn mynnu newid y rheol Gymraeg oherwydd mater i awdurdodau'r Eisteddfod fyddai hyn.
"Dwi ddim yn gweld nad oes angen newid y rheol o ran cystadlu yn y Gymraeg er mwyn ehangu'r apêl.
"Gallwn ni (Llywodraeth y Cynulliad) gynnig arweiniad i'r Eisteddfod ond mater i'r sefydliad ei hun fydd penderfynu ar y llwybr.
"Mae 'na gydweithio rhwng asiantaethau er mwyn cryfhau'r Gymraeg."
Dywedodd y byddai trefniant ariannol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn lleddfu sefyllfa ariannol anodd y Brifwyl.
Llwyddiant
"Os ydyn nhw'n gofyn am arian cyhoeddus mae'n ddyletswydd arnom i gynnig canllaw eu bod yn ymestyn yr apêl i gymaint ag y gallen nhw.
"Rydym wedi gweld i raddau y llynedd yn Eryri a mwy eleni newidiadau fydd yn apelio at fwy."
Dau frawd: Prys Morgan a Rhodri Morgan
|
Dywedodd fod yr arwyddion eleni o lwyddiant yn edrych yn addawol.
"Roedd cyngerdd Katherine Jenkins a'r gymanfa nos Sul yn dangos llwyddiant."
Dywedodd yr Athro Morgan fod angen apelio i'r di-Gymraeg, yr ifanc a'r newydd.
"Roedd rhaid i ni yn yr ardal ger Abertawe lle dwi'n byw, ardal Seisnigaidd, godi targed o £6,000, ac rydym wedi llwyddo i gyrraedd £16,000.
"Mae'r di-Gymraeg yn teimlo bod ganddyn nhw 'afael' ar yr Eisteddfod yma."
Dywedodd ei fod yn teimlo fod y di-Gymraeg yn "awchu" am gael "blas ar y Gymraeg".