Mae Margaret Rowlands (ch) wedi cyflwyno'r Goron eleni er cof am Dafydd Rowlands
|
Ar ddiwrnod y seremoni yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe mae'r Goron yn cael ei chyflwyno er cof am gyn-Archdderwydd.
Gweddw Dafydd Rowlands y cyn-archdderwydd oedd â'i wreiddiau yng Nghwm Tawe sy'n ei chyflwyno er cof amdano.
Dywedodd Margaret Rowlands fod y teulu wedi penderfynu rhoi'r Goron er cof am ei gŵr ac y byddai'r seremoni yn dod â "llu o atgofion" yn ôl iddi.
Ym Mai cafodd y Goron ei chyflwyno'n swyddogol i'r Eisteddfod mewn noson arbennig yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe.
Cafodd ei llunio a'i gwneud gan Mari Thomas, y grefftwraig o Felinfoel, Llanelli.
Dywedodd Mrs Rowlands mai'r mynyddoedd a'r bryniau o amgylch Abertawe a Phontardawe oedd wedi ysbrydoli'r cynllun.
"Mae Mari wedi creu coron arbennig iawn i ni ac mae pum ffenest o arian gyda siâp y mynyddau o amgylch Pontardawe ym mhob ffenest - y Gwryd, y Baran, Gelli Onnen, March Hywel a Chraig Alltwen.
Cafodd y Goron eleni ei chynllunio gan Mari Thomas
|
"Yna mae gwifren o aur gwyrdd yn cysylltu'r ffenestri at ei gilydd ac ar waelod y Goron mae haen o aur disglair yn cynrychioli'r tonnau ym Mae Abertawe."
Enillodd Mr Rowlands y Goron yn Eisteddfod y Fflint, 1969, a'r Goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Sir Benfro, Hwlffordd, yn 1972.
Dywedodd Mrs Rowlands y byddai'r seremoni'n brofiad emosiynol iddi.
"Bydd heddi yn ddiwrnod eitha anodd i fi - wrth eistedd yn y pafiliwn bydd llu o atgofion yn dod nôl.
"Mae Sioned, fy wyres yn un o ferched dawns y blodau ar y llwyfan a bydd y Goron yn cael ei chyflwyno er cof am ei thad-cu."