Roedd y gyfrol wedi ei haddasu'n gyfres radio saith pennod
|
Deng mlynedd ar hugain ers i golofnau'r Cofi amharchus Goronwy Jones ym mhapur bro Y Dinesydd wylltio diaconiaid capel mae ail gyfrol y Dyn Dwad ar grynoddisg.
"Mae'n neis cael rhywbeth ar gof a chadw," meddai'r awdur Dafydd Huws o Lanberis, awdur Walia Wigli a Chwarter Call.
"Roedd Y Dyddiadur eisoes yn ffilm ac roedd teimlad fod angen fersiwn newydd o'r ail nofel, Un Peth 'Di Priodi."
Yn sicr, meddai, roedd y gyfres radio gychwynnodd ym Mehefin ar Radio Cymru'n hwb.
"Ro'n i'n falch fod ymateb da i'r gyfres ac yn falch fod y nofel wedi dal ei blas 16 blynedd yn ddiweddarach."
Roedd y lansiad ar Faes C nos Iau yng nghwmni ffrindiau'r Dyn Dwad, y rhai fu'n actio yn y gyfres radio, Llion Williams, Emyr Roberts a Rhian Morgan. Yr Academi sydd wedi trefnu'r noson.
Cydweithiodd gwasg Y Lolfa a'r BBC i gyhoeddi CD ddwbl o chwe rhaglen gyflawn o'r gyfres.
Cafodd y gyfres radio ei recordio'n fyw yng Nghaerdydd a Chaernarfon
|
"Gan fod y deunydd crai mor wych a'r actorion mor broffesiynol doedd hi ddim syndod i'r gyfres gael ymateb mor dda," meddai Lefi Gruffudd o'r Lolfa.
"Gobeithio y darlledir mwy o'r math yma o beth ac y bydd modd cyhoeddi mwy o CDs o gomedi ysgafn yn y dyfodol."
Darlunio Caerdydd yn y saithdegau yr oedd Dyddiadur y Dyn Dwad.
Dychanu
Roedd yn portreadu'r ddinas mewn cyfnod o newid ac yn dychanu'r dosbarth canol 'parchus' oedd yn cymryd yn ganiataol fod y gweithiwr siop garpedi yn athro, fel bron pob Cymro Cymraeg arall o'r gogledd oedd yn symud i Gaerdydd.
Tynnodd Goronwy'r sefydliad i'w ben gyda'i hanesion o lymeitian, mercheta a byw ar fwydydd têc-awê ym mhapur bro Y Dinesydd.
Roedd y gyfres radio yn dilyn stori Goronwy ar ddechrau'r ail lyfr, Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw.
Yn y llyfr bu raid i Goronwy addasu wrth ddechrau colli cysylltiad â'i ffrindiau yn Nhafarn y New Ely wedi iddo briodi a chael ei lusgo'n ddyfnach, yn groes i'w ewyllys, i'r byd dosbarth canol Cymraeg.
A sut byddai'r hen Gofi amharchus yn mwynhau'r Eisteddfod eleni?
"Mae'n aros yn y maes carafannau eleni, yn falch fod bar o fewn hanner canllath i'w garafán, ar Faes C," meddai'r awdur.
"Mae'n gyd-ddigwyddiad hapus."