Mae Ms Gwizdak yn defnyddio pethau naturiol fel blodyn bach y lanternau
|
Mae gemydd o Gaerfyrddin wedi cipio'r Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 am gasgliad o fodrwyau anghyffredin.
Mae Carol Gwizdak yn cyfadde nad pethau i'w gwisgo ydi ei modrwyau.
Daeth yr athrawes celf 43 oed o Nantgaredig i'r brig yn y gystadleuaeth gynta iddo roi cynnig arni ac mae hi'n cael £3,000 yn ogystal â'r Fedal.
Dywedodd ei bod erbyn hyn yn cystadlu mewn cystadlaethau Ewropeaidd ac yn gobeithio cael cyfnod yng Ngholeg Sir Gâr er mwyn datblygu ei gwaith celf.
Mae Ms Gwidzak yn dylunio gemwaith ers diwedd yr 1980au ac ar gychwyn ei gyrfa roedd yn creu modrwyau drudfawr gydag aur a diemwntau ar gyfer cleientiaid preifat.
Wedi mwy na degawd o ddysgu'n llawn amser fe ailgydiodd yn y grefft rhyw ddwy flynedd yn ôl ond erbyn hyn mae hi'n creu modrwyon gyda deunyddiau naturiol ac arian.
Chwilota
"Ers fy mhlentyndod rydw i wrth fy modd yn cerdded ac yn chwilota am hadau ac ati," meddai.
Helyglys wedi ei chwistrellu â phaent sydd ar y fodrwy hon
|
"Weithiau mi wna'i gymryd peth amser i ganfod yr union hedyn ydw i ei angen ar gyfer un o fy modrwyau.
"Fe wnes i gasglu un hedyn sydd yn un o'r modrwyau yn y casgliad ar gyfer y Fedal Aur o hen fynachlog ar ben bryn yng Ngwlad Groeg."
Dywed fod defnyddio elfennau naturiol "yn awgrymu rhyw freuder" ac yn gorfodi pobl i ystyried "beth sy'n werthfawr a beth a ystyriwn ni i fod yn werthfawr".
Ond mae hi'n cyfadde mai gweithiau celf ydi'r modrwyau yn hytrach na phethau i'w gwisgo.
"Mae pobl yn hoffi eu rhoi ar ei bysedd serch hynny," meddai.
"Fe gafodd detholwyr y fedal hwyl yn eu gwisgo - roedd yn rhaid i mi ddal fy anadl tra'u bod wrthi!"
'Eironi' gwobr
Ychwanegodd: "Rwy'n delio mwy gyda chysyniadau bellach ac yn datblygu fy syniadau celfyddydol fy hun.
Mae'r fodrwy ynma'n cyfuno arian a hedyn rhosyn bach y gwynt
|
"Mae hynny'n braf achos rydwi wedi treulio blynyddoedd yn fy ngwaith yn annog creadigrwydd pobl eraill."
Ei gobaith yn y dyfodol yw cymryd amser o'r swydd er mwyn datblygu ei gwaith ymhellach.
Mae hi hefyd am gystadlu mewn cystadlaethau gemwaith eraill gan gynnwys un yn Yr Almaen a Gwobr Gemwaith Jerwood.
Dywedodd un o ddetholwyr y Fedal Ralph Turner mai eironig oedd dyfarnu Medal Aur am fodrwyau ecolegol.
"Gan herio syniadau traddodiadol am emwaith fel addurniad i ddyrchafu statws y gwisgwr, mae gwaith radical Carol Gwizdak mewn deunyddiau an-werthfawr yn atgoffa'r gwyliwr o'i swyddogaeth danseiliol."