Dyma'r tro cynta i Archesgob Caergaint annerch oedfa'r Brifwyl
|
Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol fe gafwyd pregeth gan Archesgob Caergaint.
Y Parchedicaf Dr Rowan Williams, sy'n hanu o fro'r Eisteddfod, a draddododd anerchiad oedfa agoriadol y Brifwyl ar gyrion Abertawe fore Sul.
Cenedl, Cymuned, Cyfiawnder oedd teitl y bregeth yn y pafiliwn ar Barc Felindre.
Ymwelodd bron i 15,000 o bobl â'r Maes ddydd Sul.
Cyfrifoldeb
Cafodd Dr Williams ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn Nhyddewi yn 2002.
Yn ei anerchiad ddydd Sul, dywedodd wrth y gynulleidfa fod cyfrifoldeb unigolion yng nghyd-destun cenedl, cymuned a chyfiawnder yn "rhywbeth ni feddwl amdano wrth ddathlu, yr wythnos hon, ein hetifeddiaeth ein hiaith a'n diwylliant".
Gofynnodd: "Sut y byddwn diogelu'r posibilirwydd o dyfu, hynny yw datblgu o fod yn genedl i fod yn gymuned ac wedyn bod yn gymuned gyfiawn, lle mae pawb yn adnabod ei gyfrifoldeb tuag at bawb arall a thros bawn arall?
Cafodd Dr Williams ei urddo i'r Orsedd yn 2002
|
"Sut y byddwn yn adeiladu hyder yn ein cenedl - yng Nghymru, gyda'i phroblemau gwledig mor anodd a chyfnewidiol, problemau ynglŷn ag ailddatblygiad yn y cymoedd, a phrisiau tai i bobl ifanc, y her newydd mewn dinasoedd llwyddiannus, problemau a chamddefnydd cyffuriau, digalondid, unigrwydd a hunanladdiad?
"Ac wedyn ym Mhrydain gyfan, sy'n rhannu'r un problemau â Chymru - ond hefyd yn wynebu'r sialens pan mae pobl yn colli hyder yn ein bywyd cyffredin a gwleidyddol?
Ar ddiwedd y bregeth dywedodd fod "gwladgarwch Gymreig yn wastad yn cynnwys elfen ryngwladol ... os byddwn ni'n ddifrifol ynglŷn â'n gorffennol, mae rhaid i ni fod yr un mor ddifrifol ynglŷn â'n dyfodol."
'Pafiliwn yn llawn'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol Heini Gruffudd fod y pafiliwn yn llawn ar gyfer yr oedfa fore Sul.
"Byswn i'n barnu bod rhyw 3,000 falle wedi dod i wrando ar Rowan Williams," meddai.
Hyd yn hyn mae mwy o bobl wedi dod i'r Eisteddfod nag ar ddau ddiwrnod cynta'r Brifwyl yn Eryri y llynedd.
Fe ddaeth 14,483 i'r Maes ddydd Sul o gymharu â 12,759 ar yr un diwrnod y llynedd a 14,046 yn 2003.
Ddydd Sadwrn fe ddaeth 16,565 o ymwelwyr i'r ŵyl - 633 yn fwy nag ar ddydd Sadwrn cynta'r Eisteddfod ar Stad y Faenol ar gyrion Bangor y flwyddyn ddiwetha.