Mae llywydd llys yr Eisteddfod yn apelio ar bobl i ddod i'w ŵyl
|
Mae mwy o bobl wedi ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyrion Abertawe ddydd Sadwrn nag ar ddiwrnod cynta'r ŵyl yn Eryri y llynedd.
Yn ôl y trefnwyr roedd 16,565 o ymwelwyr ar y Maes - 633 yn fwy nag ar ddydd Sadwrn cynta'r Eisteddfod ar Stad y Faenol ar gyrion Bangor y flwyddyn ddiwetha.
Nos Wener wrth agor Brifwyl yn swyddogol fe alwodd llywydd Llys yr Eisteddfod Hugh Thomas ar bobl Cymru i gefnogi'r ŵyl ac anelu at dorri'r record ymwelwyr.
Cystadlaethau'r bandiau pres oedd un o'r uchafbwyntiau ar ddiwrnod llawn cynta'r ŵyl.
Hefyd mae seremoni wedi cael ei chynnal i wobrwyo enillwyr cystadlaethau'r adrannau celf, chrefft a phensaernïaeth.
Croeso
Mae tua 170,000 o bobl yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn.
Cyn y cyngerdd mawreddog nos Wener, oedd yn cynnwys y gantores opera o Gastell Nedd Katherine Jenkins, estynnodd Mr Thomas groeso i'r miloedd o bobl sy'n bwriadu ymweld â'r Eisteddfod ar safle hen waith dur ac alcam Felindre ar gyrion y ddinas.
Dywedodd: "Mae dros hanner poblogaeth Cymru yn byw o fewn taith llai nag awr o'r maes hwn. Beth am dorri pob record am bresenoldeb yn ystod yr wythnos?"
Nos Sadwrn mae'r gwleidydd a'r canwr gwerin Dafydd Iwan yn ymuno â'r grŵp Ar Log mewn cyngerdd yn Abertawe i ddathlu 30 mlynedd o berfformio.