Y Senedd: Dyluniad 'tawel a hyderus' yn ôl detholwyr y Fedal
|
Mae cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch.
Rhoddwyd y wobr i'r penseiri o Lundain, Partneriaeth Richard Rogers, am gynllun gafodd ei ddisgrifio gan y detholwyr yn un "tawel a hyderus".
Dywedodd yr Arglwydd Rogers: "Mae'r Senedd wedi ei chodi ar gyfer pobl Cymru ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael Medal Aur yn yr Eisteddfod."
Mae bron i 200,000 o bobl wedi ymweld â'r Senedd ers i'r Frenhines Elizabeth agor yr adeilad yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Cydnabyddiaeth
Dywedodd Gweinidog Cyllid y cynulliad Sue Essex fod yr adeilad wedi ennill nifer o wobrau pensaernïol ac amgylcheddol yn barod ond fod y wobr hon wedi ei phlesio'n arbennig.
"Mae o'n gydnabyddiaeth gan bobl Cymru i adeilad sydd wedi ei ddylunio i'r safonau penasernïol ac amgylcheddol uchaf," meddai.
Roedd gwobr eleni yn cael ei rhoi am adeilad neu grŵp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru rhwng 2003 a 2006.
Rhoddir y wobr gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safonau dylunio uchaf.
Canolbwynt cymdeithasol
Dywedodd y detholwyr, Alan Francis a Phil Roberts, fod dyluniad y Senedd yn syml ac yn eglur o gymharu â llawer o'r "pensaernïaeth frolgar" sydd i'w weld ym Mae Caerdydd.
Mae'r adeilad wedi ennill nifer o wobrau pensaernïol ac amgylcheddol
|
"Mae eisoes wedi mwy na bodloni'r disgwyliadau i ddod yn 'ystafell fyw Cymru' - yn ganolbwynt cymdeithasol a man cyfarfod ac yn bwynt cyswllt agored gyda'n cynrychiolwyr gwleidyddol," meddai'r detholwyr.
"Mewn faint o adeiladau Senedd y gallwch eistedd yn y caffi cyhoeddus gan edrych dros ei falconi a gweld y Llywydd yn gweithio'n hwyr wrth ei gyfrifiadur?"
Ychwanegodd y detholwyr: "Nid oes angen colofnau neu bedimentau neu arwyddluniau hen ffasiwn o statws cyhoeddus.
"Mae'n ffurf gofiadwy hardd a fydd fe dybiwn yn tyfu mewn statws i ddod yn wir lysgennad i'r wlad hon."
Plac teilyngdod
Mae'r Senedd ymhlith 14 adeilad sydd wedi eu henwebu ar gyfer Gwobr y Prif Weinidog am Adeilad Cyhoeddus Gwell. Caiff y canlyniad ei gyhoeddi ym mis Hydref.
Hefyd yn yr Eisteddfod fe ddyfarnwyd blac teilyngdod i bensaer o'r gogledd am gynllun tŷ a adeiladodd i'w hun yn Nantmor ger Caernarfon.
Mae cartref David J Wilkinson yn defnyddio pren a gafwyd o baledau diwydiannol ac yn defnyddio strwythur chalet gwreiddiol fel calon yr adeilad newydd.
Dywedodd y detholwyr fod y tŷ'n cynnig ymateb "hyfryd o sensitif i'w leoliad gwledig", ac yn defnyddio technegau a deunyddiau i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.
"Dylid annog tai o'r math hwn mewn lleoliadau gwledig o'r fath," meddai'r detholwyr.
"Dylid llongyfarch y pensaer am ei ymdrechion a dylid rhoi clod hefyd i'r cynllunwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri am gefnogi cynllun mor gyfoes."