Mae'r arolwg mwya eto'n cael ei gynnal ar y profiad hoyw yng Nghymru
|
Mae cyfarfod wedi ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn i drafod materion sy'n codi i bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Bwriad y cyfarfod, gafodd ei drefnu gan Stonewall Cymru, oedd gofyn a yw siaradwyr Cymraeg lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn derbyn triniaeth deg ym myd iechyd, tai, addysg a chyflogaeth.
Hefyd mae'r mudiad wedi lansio'r arolwg mwya hyd yma o fywyd lesbiaidd a hoyw yng Nghymru.
Ymhlith y siaradwyr ar faes yr Eisteddfod roedd yr AS Adam Price a'r AC Helen Mary Jones.
Bu Mr Price yn trafod pwysigrwydd ymchwilio i anghenion pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
'Diffyg iaith addas'
Bu Ms Jones yn tanlinellu rôl y Cynulliad o ran gweithredu ffyrdd newydd o sicrhau tegwch i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wrth ddarparu nwyddau, adnoddau a gwasanaethau.
Dywedodd Dr Alison Parken, cyfarwyddydd Stonewall Cymru: "Mae ein cefnogwyr Cymraeg eu hiaith wedi dweud wrthym ei bod yn aml yn anodd cyrraedd at wasanaethau cynghori yn yr iaith o'ch dewis.
"Rydym hefyd yn gwybod bod diffyg iaith addas er mwyn trafod perthynas rhwng dau o'r un rhyw yn Gymraeg, a gall hyn olygu gorfod siarad am eich rhywioldeb yn Saesneg.
"Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf gall fod yn anodd iawn ceisio esbonio eich anghenion."
Ychwanegodd fod y mudiad yn falch iawn o gynnal cyfarfod a oedd "yn siwr o fod yn addysgiadol ac yn agoriad llygad yn yr Eisteddfod Genedlaethol".
Dywedodd mai'r bwriad hefyd oedd "ystyried sut y gall iaith fod yn rhwystr rhag cyrraedd at wasanaethau, a'r materion sy'n medru codi ar gyfer pobl LHD sydd 'allan' mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith."
'Trin yn gorfforaethol'
Un fu'n annerch y cyfarfod oedd Dafydd Frayling, aelod o gyngor Stonewall Cymru.
"Pan ydych chi'n sôn am feysydd fel iechyd, tai a budd-daliadau rydych yn tueddu i gael eich trin ar lefel gorfforaethol," meddai.
"Er bod gan rhai gyrff a chwmnïau bolisïau reit iach mae'n anodd gwybod beth sy'n digwydd yn fewnol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau.
"Os ydych yn anghytuno gyda'r penderfyniadau hynny mae'n anodd cael gwybod pwy sydd wedi eu gwneud ac ar ba sail.
"Mae'n anodd felly chi gael tystiolaeth os ydi'r penderfyniad ar sail camwahaniaethu ai peidio."
Dywedodd ei fod yn anodd weithiau cael tegwch o fewn y sector breifat yn niffyg deddfwriaeth i wahardd gwahaniaethu ar sail rhywioldeb
Hefyd mae'r sefyllfa'n waeth yng nghefn gwlad Cymru mewn siroedd fel Powys lle mae poblogaeth fach mewn ardal eang, ac wrth geisio gwasanaethau mwy arbenigol.
"Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio o fewn y sector wirfoddol, er enghraifft, yn ddi-Gymraeg ac felly ddim mewn sefyllfa i drafod materion yn y Gymraeg," meddai.