Mae'r lluniau'n 'ddosbarth meistr mewn gwaith ffotograffig hynod gelfydd'
|
Ffotograffydd ac artist o Sir Gâr yw enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006.
Mae Aled Rhys Hughes o Rydaman hefyd yn derbyn gwobr o £3,000 am gyfres o ffotograffau o dirlun y Mynydd Du.
Yn ôl un o'r detholwyr Peter Finnemore mae'r lluniau'n "ddosbarth meistr mewn gwaith ffotograffig hynod gelfydd".
Dywedodd Mr Hughes fod y lluniau'n fwriadol "amwys" er mwyn adlewyrchu naws arbennig rhan arbennig o'r mynydd sydd rhyw chwe milltir o'i gartre.
Ymweld yn wythnosol
"Term glofaol a daearegol yw Ffarwel Rock," meddai. "Roedd y glowyr yn gwybod pan gyrhaeddon nhw'r graig hon nad oedd dim diben twrio ymhellach gan mai dyma ddiwedd y glo."
Cydiodd enw'r graig yn nychymyg y ffotograffydd
|
Roedd yn gwybod am y graig ers dros 30 mlynedd ond dim ond pum mlynedd yn ôl y daeth i wybod beth oedd ei henw ar ôl astudio map.
Cydiodd yr enw gymaint yn ei ddychymyg fe aeth yno i dynnu lluniau o'r ardal ac mae wedi ymweld â'r graig bob wythnos yn rheolaidd ers hynny.
"Dyna ydw i'n tueddu i'w wneud - os mae'r enw'n ddiddorol mae'n codi awydd arna' i i fynd yna i dynnu lluniau, waeth beth sydd yna," meddai.
"Lluniau o enw yw'r rhain, nid lluniau o le. Mae rhywbeth amwys iawn yn enw'r lle hwn ac mae fy nelweddau i yr un mor amwys."
'Concro gofod'
Dywedodd Mr Finnemore fod y ffotograffau'n "ddelweddau sy'n llawn drwy eu gwacter a'u craffter".
Mae'r lluniau'n amwys i adlewyrchu naws rhan o'r Mynydd Du
|
"Mae rheolaeth a mynegiant o ofod ffotograffig yn un o agweddau mwyaf anodd ffotograffiaeth. Llwyddodd Aled Rhys Hughes i goncro gofod ac mae'r gwyliwr wedi ymgolli mewn amwysedd gofodol."
Mae detholwyr arddangosfa celfyddydau gweledol yr eisteddfod hefyd wedi dyfarnu £2,000 i Iwan Lewis o Nasareth ger Caernarfon, am ei baentiadau "unigryw a chofiadwy".
Dywedodd aelod o'r panel, Craig Wood, fod y gwaith yn amlygu "dychymyg hyfryd a swyn medrus", ac ym marn Karen MacKinnon maen nhw'n "baentiadau hynod, doniol a gwefreiddiol, sy'n aros yn y cof."
Detholwyr eraill arddangosfa eleni yw Alex Beleschenko, Karen MacKinnon, Ralph Turner a Craig Wood.