BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Awst 2006, 17:13 GMT 18:13 UK
Brawd Mawr: Iaith ar waith
Imogen Thomas a Glyn Wise
Mae 'newid byd' ers i Imogen a Glyn gael cerydd am siarad yn Gymraeg

Mae dau gystadleuydd y rhaglen deledu Big Brother wedi dechrau dysgu'r Gymraeg ar gyfer tasg wythnosol i ennill bwyd ar gyfer preswylwyr y tŷ.

Pan ddihunodd yr wyth cystadleuydd fore Mercher roedd y tŷ wedi ei droi'n goleg ac mae'n rhaid i'r "myfyrwyr" astudio pedwar pwnc gwahanol mewn parau.

Yr her i Richard Newman a Susie Verrico yw dysgu ymadroddion Cymraeg - tasg fydd yn eu galluogi i siarad â'r ddau o Gymry Cymraeg yn y tŷ, Glyn Wise o Flaenau Ffestiniog ac Imogen Thomas o Lanelli.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod hwn yn "gam positif" ac yn gyfle i ddangos i filiynau o wylwyr fod y Gymraeg yn iaith fyw.

Bydd y cystadleuwyr yn sefyll prawf ddydd Iau.

Mae hwn yn rhywbeth positif iawn ac yn dangos y Gymreg fel iaith berthnasol
Luned Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Er mwyn "graddio" mewn astudiaethau cyfathrebu mae gofyn i Aisleyne a Glyn ddysgu 30 o eiriau ac ymadroddion iaith arwyddion.

Mae Imogen a Mikey yn astudio anatomi ac mae disgwyl iddyn nhw allu enwi 20 o esgyrn a chyhyrau.

Llenyddiaeth Saesneg a drama yw pwnc Pete a Jennie, ac mae Richard a Susie yn dysgu'r Gymraeg ar gyfer "gradd" mewn ieithoedd.

'Newid mawr'

Mae Glyn wedi croesawu hyn ond yn amau a fydd Susie'n dysgu digon i basio'r prawf.

Eisoes mae'r fenyw 43-oed o Gaint wedi cael trafferth ynganu'r geiriau.

Bydd disgwyl iddi hi a Richard allu dweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Dywedodd Luned Jones o'r Bwrdd Iaith fod newid byd wedi bod ers cychwyn y gyfres pan gafodd Glyn ac Imogen gerydd gan lais y Brawd Mawr am siarad â'i gilydd yn eu mamiaith.

Susie Verrico
Mae Susie eisoes yn cael trafferth ynganu geiriau Cymraeg

Pryder y cyd-gystadleuwyr oedd eu bod yn siarad â'i gilydd mewn côd ond ers hynny mae'r cynhyrchwyr wedi trefnu i rywun gyfieithu sgyrsiau Cymraeg rhwng y ddau a rhoi isdeitlau ar y sgrîn.

"Rydyn ni wedi symud o sefyllfa lle oedd y rhaglen yn ansicr o'i defnydd o'r iaith i'r ffaith iddyn nhw osod dysgu Cymraeg fel tasg," meddai Ms Jones. "Mae hynny'n newid mawr."

"Mae hwn yn rhywbeth positif iawn ac yn dangos y Gymreg fel iaith berthnasol ar lefel enfawr ar gyfer cynulleidfa ifanc argraffiadol.

"Efallai y bydd yn rhywbeth fydd yn newid agwedd tu mewn a thu allan i Gymru at y Gymraeg."

Mae'r cystadleuwyr yn cystadlu am wobr o £100,000.




HEFYD
Brawd Mawr: Imogen yn cael aros
28 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Cymry'n cael aros
14 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: 'Rhy ifanc'
12 Gorff 06 |  Newyddion
Iaith yn 'arf marchnata'
23 Meh 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Rhyddhad i Imogen
23 Meh 06 |  Newyddion
Chwaer fawr yn gwylio'r brawd bach
24 Mai 06 |  Newyddion
Y Brawd Mawr: Dim negeseuon Cymraeg
23 Mai 06 |  Newyddion
Y Brawd Mawr a'r iaith
19 Mai 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^