|
Betsan Powys
Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru
|
Mae angen i saith o bob 10 Eisteddfod lwyddo'n ariannol
|
Yn ôl Elfed Roberts, cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol "proses nid digwyddiad" yw'r ŵyl.
Ar drothwy'r Eisteddfod yn Abertawe mae golygon Mr Roberts yn barod ar Yr Wyddgrug.
Mae am ddarbwyllo'r Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh, y dylai'r £50,000 o daliad ychwanegol y mae'r Eisteddfod wedi'i gael eleni at gostau'r ŵyl yn daliad blynyddol.
"Beth fyddai'n ei golli? Dau bafiliwn bach falle?," meddai.
"Mae angen dangos i'r Gweinidog beth mae'r arian yn ei brynu, pam mae angen bob ceiniog arnon ni".
Bydd Mr Pugh ar y Maes yn Felindre nos Wener nesa, ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Gan fod Llywodraeth y Cynulliad yn pwyso ar yr Eisteddfod i wneud mwy i groesawu ymwelwyr di-Gymraeg ac i foderneiddio, chaiff e ddim gadael y Maes heb weld tipyn mwy na'r Gymanfa welodd e'r llynedd.
Codi arian
Ond pam fod yr Eisteddfod wedi mynd i ddyfroedd ariannol mor ddwfn?
Os yw'r ŵyl yn rhy fawr ac yn rhy ddrud, torrwch y got yn ôl y brethyn, medd y beirniaid. Ond nid felly y mae'r cyfarwyddwr yn ei gweld hi.
Mae Elfed Roberts eisoes yn edrych tuag at Eisteddfod 2007
|
Pa gorff diwylliannol arall, meddai - a dyna yw'r Eisteddfod iddo fe, nid gŵyl Gymraeg yn unig - sy'n gorfod codi gymaint â thri chwarter ei harian o ffynonellau heblaw'r pwrs cyhoeddus?
Bydd 'na ryddhad os bydd yr ŵyl eleni yn gwneud elw.
Dyna sydd ei angen, blwyddyn gref arall fel y cafwyd y llynedd yn Eryri.
Mae gwerthiant tocynnau o flaen llaw yn ddigon tebyg i'r llynedd.
Ond os daw glaw, a'r miloedd yn cadw draw, un neges glywch chi gan y cyfarwyddwr.
Does dim arian wrth gefn bellach i gynnal colled. "Mae'n rhaid i saith Eisteddfod o bob deg wneud elw".
Fydd y pafiliwn pinc yn helpu? Fe ddylai. Allwch chi ddim ei osgoi wrth yrru heibio'r safle yn Felindre.
Welwch chi ddim melin wynt ar y Maes er i'r Eisteddfod fod wrthi'n trafod y posibilrwydd - rhan o ymdrech i ystyried effaith yr ŵyl ar yr amgylchedd.
Fe fydd y cwpanau te a choffi eleni wedi'u gwneud o ddefnydd sy'n dirywio'n llwyr.
Curo gwragedd
Ond does dim gobaith, hyd yma, i gael gwared ar y 'generators' sy'n llosgi disel.
Eto mae'n amlwg fod y cydwybod yn pigo. Beth am y gân werin - Tafarn y Rhos - a'i chyfeiriad at guro gwragedd?
Mae wyth o bartïon yn sôn am gystadlu ond faint o brotestwyr fydd yno'n gwrando?
Ac ni fydd seremoni benodol i groesawu'r Cymry sy'n byw dramor eleni.
Byddwch yn barod am brotest fod gŵyl sy'n barod i dderbyn nawdd ariannol o dramor wedi peidio â rhoi croeso i'r Cymry sy'n byw yno.
Taflwch y cwbwl i'r pair. I Elfed Roberts mae'n rhan o'r broses.