BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Gorffennaf 2006, 10:45 GMT 11:45 UK
'Cawr athronyddol' yn marw
Yn 71 oed bu farw un o athronwyr Cymru, yr Athro Dewi Z Phillips.

Cafodd ei eni yn Nhreforys, Abertawe, ac roedd ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe dros gyfnod o 40 mlynedd.

Bu'n athro athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yn dal Cadair Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Claremont, California.

Roedd yn awdur toreithiog ac wedi cyhoeddi Athronyddu ar Grefydd, Dramâu Gwenlyn Parry, R S Thomas: Poet of the Hidden God, a Writers of Wales: J R Jones.

Ei feysydd ymchwil oedd crefydd, moeseg, athroniaeth a llenyddiaeth, a Wittgenstein.

Rhwng 1952 a 1958 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, cyn mynd i Brifysgol Rhydychen.

Rhwng 1959 a 1961 bu'n weinidog yn Eglwys yr Annibynwyr Fabian Way yn Abertawe.

Yn 1961 bu'n darlithio yn Ngholeg y Frenhines, Dundee, cyn symud i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

'Bwlch mawr'

O 1965 ymlaen bu yn Adran Athroniaeth Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac o 1992 ymlaen bu'n athro ym Mhrifysgol Claremont, California.

Roedd yn byw yn Y Sgeti, Abertawe, ac mae'n gadael gwraig, Monica, a thri o blant, Steffan, Rhys, ac Aled.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, ei fod yn "academydd rhagorol ... uchel ei barch ac yn ddeallus iawn."

"Bydd bwlch mawr ar ei ôl ymhlith cyfeillion a chydweithwyr drwy'r byd."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^