BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Gorffennaf 2006, 17:08 GMT 18:08 UK
Arglwyddi o blaid mesur Cymru
Senedd
Fe fydd y mesur yn rhoi mwy o hawliau i wleidyddion y bae

Mae'r arglwyddi wedi pleidleisio o blaid mesur fydd yn rhoi mwy o bwerau i'r cynulliad.

Cymeradwyodd yr arglwyddi Fesur Llywodraeth Cymru fydd yn cael cydsyniad brenhinol ddydd Mawrth.

Bydd y mesur yn rhoi mwy o rym i'r cynulliad ddeddfu mewn meysydd sydd wedi eu datganoli fel addysg a iechyd.

Mae Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru, wedi dweud fod y mesur yn "wawr newydd i ddatganoli" ond ei fod mewn sefyllfa "sy'n llawn tyndra".

Hwn fydd y newid mwya o ran trosglwyddo grym, meddai, ers i'r cynulliad gychwyn saith mlynedd yn ôl.

Bydd y mesur yn rhoi pwerau i'r cynulliad basio deddfau heb fynd drwy'r Senedd yn Llundain.

Siom

Eisoes roedd Llywodraeth Prydain wedi cael siom pan bleidleisiodd yr arglwyddi o blaid newid y mesur yn sylweddol.

Peter Hain
'Cyfnod newydd i Gymru': Peter Hain

Roedd y newidiadau'n cynnwys gwrthod gwahardd newid y drefn o ethol aelodau - roedd y llywodraeth am gyflwyno rheol na allai ymgeisydd sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol.

Ac roedd Llafur wedi cwyno wedi i dri aelod a gollodd sedd Gorllewin Clwyd lwyddo i fod yn Aelodau Cynulliad oherwydd rhestrau rhanbarthol eu pleidiau.

Ond wedi i'r mesur ddychwelyd i'r Senedd ailgyflwynwyd y cymal yn erbyn ymgeisio deuol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^