Llun artist o'r ganolfan newydd
|
Mae'r gwaith ar gynllun £27.3m i ddatblygu tref yn y gogledd fydd hefyd yn creu 300 o swyddi wedi dechrau ddydd Mawrth.
Mae cwmni W.J. Developments (Gwynedd) Cyf wedi buddsoddi £23m i ddatblygu tir yn Noc Fictoria, Caernarfon.
Bydd y datblygiad 5.4 erw yn cynnwys adeiladau masnachol a phreswyl a'r gobaith yw y bydd yn gwneud lles hirdymor i economi'r dref.
Dros y tair blynedd nesa mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu buddsoddi £4.3m yn y cynllun.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid i ailddatblygu ac adfywio y rhan yma o Gaernarfon," dywedodd Gweinidog Mentergarwch y Cynulliad Andrew Davies.
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol yn yr ardal yn y blynyddoedd diweddar gydag adfer a dadlygru'r tir diffaith o amgylch y safle a basn y doc.
Adeiladu
"Hefyd bydd y cynllun yn creu cyfleusterau marina i 50 cwch a sicrhau 3,000 o fetrau sgwâr o arwynebedd llawr o fewn Canolfan Celfyddydau a Chyfryngau Galeri sy'n darparu gofod deorfa busnes ar gyfer busnesau cyfryngau creadigol yn ogystal â gofod perfformio, ymarfer ac arddangos yn y dref."
Mae'r safle ar lannau'r Fenai ar gyrion Caernarfon
|
Bwriad y datblygwyr fydd creu swyddfeydd, siopau a 50 o fflatiau fydd wedi ei seilio ar gynllun Celtaidd gyda'r ganolfan adwerthu yn arddangos cynnyrch Cymreig.
Yn ôl y datblygwyr bydd tua 160 o swyddi adeiladu'n cael eu creu yn ystod y gwaith yn ogystal â'r 300 o swyddi eraill.
Cafodd seremoni ei chynnal ddydd Mawrth i nodi dechrau gwaith ar y cynllun.
Dywedodd y cynghorydd Richard Parry Hughes, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae paratoadau eisoes yn mynd rhagddynt i wneud yn siwr fod y dref yn cael y budd mwyaf o'r buddsoddiad hwn.
Cysylltiadau
"Mae angen gwella'r llwybrau cerdded a'r cysylltiadau cyffredinol rhwng y doc a'r dref, mae angen hyfforddi pobl leol fel bod ganddynt y sgiliau cywir i fanteisio ar y swyddi fydd yn cael eu creu."
Ond mae rhai yn poeni bod arian yn cael ei fuddsoddi yn y doc a hynny ar draul canol y dre.
Dywedodd maer Caernarfon a pherchennog bar Cofi Roc, Ioan Thomas: "Y peryg mawr ydi bod ymwelwyr yn dod i adeilad y doc, aros o gwmpas y doc a pheidio mynd i ganol y dre.
"Mae 'na sôn bydd meddygfeydd yn symud i'r doc - mae hynny eto yn fygythiad i ganol y dre. Os bydd y datblygwyr a'r cyngor yn sicrhau fod y cysylltiad yn weithredol rhwng y doc a chanol y dre, mi fydd y dre i gyd yn ennill."