Mesur: 'Gwawr newydd'?
|
Wrth i fesur sy'n rhoi mwy o bwerau i'r cynulliad fynd rhagddo, mae Newyddion Cymru'r Byd yn edrych ar ei gefndir.
Mesur dof neu'r newid mwyaf yng Nghymru ers y Ddeddf Uno yn 1536?
Dau ddisgrifiad o Fesur Llywodraeth Cymru sydd i fod i gael cydsyniad brenhinol ddydd Mawrth.
Beth yw'r disgrifiad mwyaf cywir? Yn wyneb natur datganoli, gam wrth gam, yr ateb efallai yw'r ddau.
Nod y ddeddf yw rhoi mwy o gyfle i'r cynulliad basio deddfau heb gymeradwyaeth Senedd Prydain.
Ond y cam cyntaf oedd bod y mesur yn cyrraedd pen ei daith yn y Senedd honno.
Mesur: Mwy o gyfle i lunio deddfau
|
Roedd hynny'n golygu perswadio Aelodau Seneddol Llafur a phan oedd wrthi'n areithio bu raid i Ysgrifennydd Cymru Peter Hain roi sicrwydd iddyn nhw mai nhw fyddai wrth y llyw.
Mae hyn yn wir, wrth gwrs. Gallai Senedd Prydain atal ymdrechion y cynulliad neu ei ddileu.
Ond ym Mae Caerdydd mae Mr Hain wedi sôn am "wawr newydd" i ddatganoli am mai hwn, meddai, fydd y newid mwya o ran trosglwyddo grym ers i'r cynulliad gychwyn saith mlynedd yn ôl.
Rhethreg efallai ond mae'n cynnwys y gwir.
A'r rheswm am y paradocs? Y drefn newydd y mae'r mesur yn ei chyflwyno - sy'n golygu y gall y cynulliad achub y blaen yn fwy.
Bydd y cyfnod Seneddol yn fwy cyflym ac yn fwy syml ac, yn y pen draw, bydd y cynuliad yn pasio ei deddfau ei hun ac yn gallu dileu deddfau Llundain.
Mae Mr Hain wedi dweud fod y "trosglwyddo yn sylweddol" ond bydd y broses yn cychwyn dim ond os yw e'n cytuno.
Bydd rhaid i Aelodau Seneddol ac arglwyddi gymeradwyo hyn a gallai'r materion lle bydd modd pasio deddf neu ddileu fod yn gyfyngedig.
Dwy iaith
Er enghraifft, dychmygwch y sefyllfa. Mae Llywodraeth y Cynulliad am lunio deddf sy'n golygu y bydd cwmnïoedd nwy, dŵr a thrydan yn darparu gwasanaethau yn y ddwy iaith.
O'r blaen, roedd Aelodau Seneddol yn cynnal tair dadl ac yn edrych ar y mesur gymal gymal wrth gymal.
Wedyn byddai arglwyddi'n dilyn yr un drefn.
Gallai Senedd Prydain roi blaenoriaeth i faterion eraill a pheidio â rhoi cymaint o amser Seneddol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
O dan y drefn newydd bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn i Ysgrifennydd Cymru gyflwyno gorchymyn gerbron Senedd Prydain fydd yn golygu y bydd gan y cynulliad rym i lunio'r ddeddf.
90 munud
Byddai dadl yn Senedd Prydain unwaith am 90 munud ac am yr un hyd yn yr arglwyddi cyn i'r cynulliad drafod y mater.
Os yw cwmpas y gorchymyn yn eang, gallai'r cynulliad gael digon o rym i lunio deddfau fyddai'n effeithio ar sawl agwedd polisi iaith heb fwy o drafod yn Senedd Prydain.
Yn hyn o beth, gallai'r cynulliad fagu mwy o fomentwm a mwy o ryddid gweithredu.