Rhaid gorffen y gwaith erbyn 2008 i gael arian Ewropeaidd
|
Mae rhai pentrefwyr yng Ngwynedd yn anfodlon ar ôl clywed y gallai carreg ar gyfer to'r adeilad newydd ar gopa'r Wyddfa ddod o dramor.
Dadl trigolion Beddgelert yw y dylai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n gyfrifol am godi'r adeilad, fynnu fod deunyddiau lleol yn cael eu defnyddio.
Mae'r awdurdod am fewnforio ithfaen o Bortiwgal ar gyfer y caffi a dywedodd llefarydd mai deunyddiau lleol fyddai'n cael eu defnyddio'n bennaf.
Ond dywedodd fod rhaid dilyn rheolau Ewropeaidd os oedd deunydd lleol yn ddrutach.
Yn Nhachwedd, wedi misoedd o ansicrwydd, cafwyd cadarnhâd fod digon o arian i godi'r adeilad newydd.
A £8.5m yw cost dymchwel yr adeilad 70-oed a chodi canolfan newydd yn ei lle. Ond bydd rhaid i'r gwaith orffen erbyn dechrau haf 2008 er mwyn cael grant o Ewrop.
'Siomedig'
Bydd y Swyddfa Gyllid Ewropeaidd yn rhoi grant Amcan Un o fwy na £4.2m at yr adeilad ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu £3m.
 |
Does 'na ddim carreg harddach i'w chael na cherrig Eryri
|
Roedd y cyhoedd wedi codi £350,000. Ond ar ôl darllen ym mhapur bro Yr Wylan fod y parc am adael i gontractwyr fewnforio carreg ithfaen o Bortiwgal ar gyfer y to mae nifer o'r rhai a roddodd arian yn ddig.
"Siomedig ddychrynllyd oeddwn i fod y parc wedi cytuno i roi cerrig o Bortiwgal ar ben yr Wyddfa - yr unig beth sydd gynnon ni yma yn yr ardal i werthu i bobl," meddai cadeirydd Cyngor Cymuned Beddgelert Ken Owen.
"Mae 'na faint fynnir o gerrig wrth ein traed yma ar yr Wyddfa ... o ba bynnag liw maen nhw eisiau i wneud y gwaith yma".
Dywedodd Alan Hughes, dyn lleol a gyfrannodd at yr apêl gyhoeddus, fod y cynnig yn "gywilydd o beth".
"Dwi wedi dychryn o glywed y ffasiwn stori," meddai. "Does 'na ddim carreg harddach i'w chael na cherrig Eryri.
"Maen nhw'n werth eu gweld ..."
'Yn gydnaws'
Dywedodd Nia Powell, awdur erthygl y papur bro, mai "anghrediniaeth" oedd ei hymateb pan ddaeth i wybod am y cynnig.
"Cefais siom o holi'r parc cenedlaethol ei hun bod hyn wedi cael ei ganiatáu a'u bod nhw wedi cytuno i hyn, gan wybod eu bod yn rhoi pwyslais fod pob adeilad i fod yn gydnaws â'i amgylchedd ac yn trïo cael pobl i ddefnyddio deunyddiau lleol yn eu tai a'u hadeiladau.
"Mae o'n rhyfeddod i mi eu bod nhw ar gyfer eu hadeilad eu hunain yn dewis mynd filoedd ar filoedd o filltiroedd dros y môr i geisio carreg."
Cafodd y caffi presennol ei godi dros 70 mlynedd yn ôl
|
"Dwi'n dallt na fydd yr holl ddeunyddiau wedi cael eu penderfynu eto ac y bydd penderfyniad erbyn diwedd Medi.
"Byswn i'n gobeithio, o wybod beth ydi'r ymateb lleol i hyn, y byddan nhw'n ailystyried."
Dywedodd llefarydd ar ran y parc eu bod yn rhagweld y bydd 60% o'r defnyddiau a'r llafur yn lleol.
Ond os oedd deunydd lleol yn sylweddol ddrutach, meddai, byddai rhaid i'r parc ddilyn rheolau Ewropeaidd.
Dywedodd fod y contractwyr wedi dangos y garreg o Bortiwgal i arbenigwr ar ran y parc a bod yr arbenigwr wedi penderfynu fod y garreg yn dilyn amodau cynllunio.
Hyd yma dyw'r contractwyr ddim wedi cyflwyno eu dewis o garreg ar gyfer y muriau a'r llawr tu allan.