BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Gorffennaf 2006, 06:13 GMT 07:13 UK
C & A: Deddf Llywodraeth Cymru

Saith mlynedd wedi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru agor y drws am y tro cyntaf mae'r corff ar fin cymryd cam pwysig ymlaen.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cynnig ymestyn pwerau'r corff ac yn ôl Ysgrifennydd Cymru Peter Hain fe fydd y ddeddf yn "claddu'r cwestiwn cyfansoddiadol am genhedlaeth".

Beth yn union fydd y Cynulliad yn gallu ei gyflawni yn y dyfodol na all wneud ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd mae cyflwyno deddfau sy'n ymwneud â Chymru yn gwbl ddibynnol ar wleidyddiaeth ac amserlen San Steffan. Er enghraifft, mae mesur i sefydlu Comisiynydd Hen Bobl - un o amcanion Llywodraeth y Cynulliad - ar fin gorffen ei daith trwy goridorau San Steffan yn dilyn proses archwilio hir ac amryw o bleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Fe fu'n rhaid i'r mesur hwnnw gystadlu gyda mesurau eraill i ennill lle yn yr amserlen Seneddol. Fe fydd y drefn newydd yn caniatáu i'r Cynulliad ofyn i Ysgrifennydd Cymru a'r Senedd am yr hawl i lunio deddfau ei hun.

Fydd y Cynulliad yn gallu gwneud popeth y mae'n dymuno?
Mae'r ddeddf yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad ddeddfu neu greu "mesurau" i ddefnyddio'r eirfa newydd yn y meysydd sydd wedi'u datganoli eisoes fel Iechyd, Addysg a Thwristiaeth. Ond ni fydd gan y Cynulliad yr hawl, er enghraifft, i gyflwyno polisi fyddai'n gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl y Banc - na newid y gyfraith o ran hela â chŵn. San Steffan fydd yn cadw'r cyfrifoldeb am y meysydd yma.

Sut yn union fydd y gyfundrefn newydd yn gweithio?
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am yr hawl i ddeddfu mewn maes penodol. Bydd angen cytundeb Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, ond dadl o awr a hanner yn unig gaiff ei gynnal yn y ddau le. Wedi hynny fe fydd mwyafrif o'r gwaith deddfu ac archwilio yn cymryd lle ym Mae Caerdydd

All hyn arwain at bwerau deddfu llawn tebyg i'r Alban.
O bosib. Mae'r mesur yn cynnwys y mecanwaith all arwain at hynny, ond fe fyddai'n rhaid cynnal refferendwm. Yn ôl Llywodraeth Prydain mae hynny'n annhebygol yn y dyfodol agos. Ond fe allai'r Cynulliad fynnu refferendwm pe bai dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid. Ond, unwaith eto, byddai angen cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol.

Pam bod Llywodraeth Prydain am newid y system o ethol Aelodau'r Cynulliad?
Yn ystod yr etholiad diwetha llwyddodd tri ymgeisydd, serch colli pleidlais Gorllewin Clwyd, i ennill seddi ym Mae Caerdydd fesul y rhestrau rhanbarthol. Mae Llywodraeth Prydain yn barnu dod a'r sefyllfa ddryslyd ac annheg i ben. Mae'r ddeddf newydd yn newid y rheolau. Yn y dyfodol fe fydd ymgeiswyr yn gorfod dewis naill ai sefyll mewn etholaeth neu ar restr ranbarthol ac yn cael eu gwahardd rhag sefyll yn y ddau. Ers cyhoeddi'r mesur y llynedd mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r Llywodraeth Lafur o geisio newid y system am resymau gwleidyddol mewnol. Mae'r Comisiwn etholiadol wedi mynegi pryder ynglŷn â'r rheolau newydd yn ogystal.

Beth yw'r camau nesaf?
Bydd y Mesur yn cwblhau ei daith drwy'r senedd ddechrau'r wythnos ac fe ddaw'n ddeddf wedi cydsyniad brenhinol. Fe fydd modd i'r Cynulliad weithredu'r grymoedd newydd wedi'r etholiad ym mis Mai 2007.

A fydd gan y Frenhines fwy o ran i'w chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru?
Bydd. Os edrychwn ni ar y print mân, y Frenhines fydd yn gyfrifol am benodi Prif Weinidog Cymru yn dilyn enwebiad gan y Cynulliad - sefyllfa debyg i benodi'r Prif Weinidog a Phrif Weinidog Yr Alban.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^