Sioe: Mae disgwyl tua 200,000 o ymwelwyr eleni
|
Mae miloedd yn tyrru i Lanelwedd yr wythnos hon ar gyfer y Sioe Frenhinol, uchafbwynt y calendr amaethyddol i deuluoedd cefn gwlad.
Ers blynyddoedd mae mwy na 200,000 yn mynd i'r ŵyl am bedwar niwrnod a doedd y llynedd ddim yn eithriad gan fod 206,000 o ymwelwyr.
Ond mae'r trefnwyr yn cydnabod fod penderfyniad awdurdodau addysg yng Nghymru, ac eithrio Powys, i gadw'r ysgolion yn agored yn ystod sioe 2005 wedi cael effeithio ar nifer yr ymwelwyr.
"Rydyn ni wedi cysylltu â'r awdurdodau addysg gan roi dyddiadau'r Sioe am y 14 blynedd nesaf er mwyn ceisio osgoi'r un problemau eto," meddai prif weithredwr y sioe, David Walters.
Mae 7,500 o arddangoswyr yn yr adrannau da byw eleni, ryw 500 yn is na'r llynedd.
Ond mae'r trefnwyr wedi gorfod cwtogi nifer y cystadleuwyr yn yr adrannau ceffylau, gwartheg, defaid, moch a geifr oherwydd prinder lle.
'Torri i lawr'
"Mae ganddon ni broblem hefo prinder lle ac felly ar ddiwedd y dydd rydyn ni wedi gorfod torri i lawr," meddai Mr Walters.
Mae prinder lle ar gyfer cystadleuwyr eleni
|
"Yr hyn rydyn ni yn ei wneud ydi cyfyngu ar nifer y llociau ar gyfer arddangoswyr - does na neb yn cael ei wrthod yn gyfangwbl."
Bydd teithwyr a cherddwyr ar yr A470 yn sylwi fod goleuadau parhaol ar hyd ochr y ffordd, y tro cyntaf erioed.
Bu pwysau mawr i wella diogelwch wedi damwain farwol ddwy flynedd yn ôl pan laddwyd bachgen ifanc o Ddinbych, Elgan Williams, wrth gerdded i bentre'r ieuenctid ar nos Sul gynta'r sioe.
Mae Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Powys wedi talu am y goleuadau o'r cylchdro wrth y brif fynedfa hyd at y fynedfa da byw.
Mudiad y Ffermwyr Ifanc a Chymdeithas y Sioe sydd wedi talu am weddill y goleuadau hyd at bentre'r ieuenctid.
Cyfarfod brys
Bydd cystadlaethau'r cobiau Cymreig brynhawn Mercher yn dal i fod yn un o uchafbwyntiau'r Sioe ac eleni am y tro cyntaf mae'r stalwyni yn y prif gylch i gyd ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau.
Comisiynydd Amaeth Ewrop Mariann Fischer Boel oedd i fod i agor y sioe - ei hymweliad cyntaf â Chymru.
Ond ar ôl cael ei galw i gyfarfod brys yng Ngenefa roedd bwlch i'w lenwi a Meuric Rees o Dywyn gafodd y fraint.