Yn wreiddiol, roedd bwriad i uno heddluoedd Cymru erbyn Ebrill 2007
|
Mae Awdurdod Heddlu'r Gogledd wedi anfon bil o £375,000 at y Swyddfa Gartref ar ôl iddi ollwng cynllun i uno heddluoedd Cymru.
Dywedodd yr awdurdod eu bod wedi dechrau gwario ar y cynllun uno cyn i'r Swyddfa Gartref wrthdroi'r penderfyniad.
Mae Heddlu Sussex wedi gofyn am £1m o iawndal ac mae disgwyl i heddluoedd eraill anfon biliau.
Dywedodd Ian Roberts, cadeirydd awdurdod heddlu Gogledd Cymru, fod y bil am gostau staff a chyfreithiol.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud y bydd yn ystyried ceisiadau oddi wrth heddluoedd.
'Ateb terfynol'
Yng nghanol y mis cadarnhaodd gweinidog yn y Swyddfa Gartref nad oedden nhw am fwrw ymlaen â'r cynllun.
Dywedodd Tony McNulty wrth aelodau awdurdodau heddlu: "A yw'r uno am fynd ymlaen, un ffordd neu'r llall? Rwy'n meddwl taw'r ateb terfynol yw 'Na'."
Roedd pedwar awdurdod heddlu Cymru yn erbyn y cynllun ac wedi dadlau fod gormod o broblemau'n ymwneud â chyllid a phlismona lleol.
Roedd y Swyddfa Gartref am ad-drefnu'r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr a'u lleihau i 12, yn unol ag argymhelliad Arolygiaeth yr Heddlu mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym Medi.
4,000
Yr awgrym oedd y dylai isafswm o 4,000 o blismyn fod ymhob heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Charles Clarke, fod lluoedd â mwy na 4,000 o blismyn yn well ar gyfer delio â throseddwyr a therfysgwyr.
Heddlu'r De yw llu mwyaf Cymru gydag ychydig dros 3,300 o blismyn. Ychydig yn llai na 2,000 o blismyn yr un sydd yn y lleill.
Roedd Mr McNulty wedi dweud nad oedd yn gorfodi heddluoedd i uno ar yr agenda.
Ond yn y Senedd roedd y Prif Weindiog Tony Blair wedi dweud y byddai'r trafodaethau'n parhau fel bod modd i heddluoedd fod yn fwy parod i ymateb i droseddau difrifol a therfysgaeth.