BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Gorffennaf 2006, 20:44 GMT 21:44 UK
Brawd Mawr: Cymry'n cael aros
Imogen Thomas a Glyn Wise
Mae Imogen a Glyn yn cael aros yn nhŷr Brawd Mawr am y tro

Mae dau o Gymry sy'n cystadlu yn rhaglen deledu Big Brother yn cael aros yn y tŷ am o leia wythnos arall wedi i wylwyr bleidleisio i'w cadw.

Roedd 11 o gystadleuwyr y rhaglen deledu yn wynebu pleidlais y cyhoedd yr wythnos hon wedi i'r 12fed cystadleuydd dorri'r rheolau.

Cyhoeddodd rhaglen nos Wener mai Nikki Grahame, model 24-oed o Middlesex, oedd yn gorfod gadael yr wythnos hon.

Yn wahanol i rai o'r cystadleuwyr sydd yn weddill, mae Glyn Wise, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, ac Imogen Thomas, 23 oed o Lanelli, wedi bod yn y gyfres ers y cychwyn cynta ddeufis yn ôl.

Nikki yw'r seithfed person i adael y rhaglen. Mae'r cystadleuwyr yn cystadlu am wobr o £100,000.

Dyma'r eildro i'r ddau o Gymru wynebu'r posibilrwydd o orfod gadael ers dechrau'r gyfres.

Roedd Glyn yn un o'r ddau cyntaf i aros am ganlyniad pleidlais y cyhoedd yr wythnos gyntaf ond arhosodd y Cymro wrth i Bonnie adael.

Yna bythefnos yn ôl roedd Imogen yn un o bedwar oedd yn wynebu cael ei hel o'r tŷ. Y tro hwnnw bu'n rhaid i Lisa adael y gyfres.

Yn gynharach yn yr wythnos cyfarfu teuluoedd Glyn ac Imogen, sy'n siarad Cymraeg â'i gilydd yn y tŷ, â'i gilydd yn Aberystwyth.




HEFYD
Brawd Mawr: 'Rhy ifanc'
12 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Rhyddhad i Imogen
23 Meh 06 |  Newyddion
Cymro'n cael aros yn y ty
26 Mai 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^