Bydd Rhodri Morgan yn agor yr adeilad newydd
|
Mae prifysgol wedi dweud nad yw am enwi adeilad newydd ar ôl AS cynta Plaid Cymru.
Wedi i Gwynfor Evans farw y llynedd galwodd myfyrwyr ar benaethiaid Prifysgol Aberystwyth i enwi adeilad newydd yr adran wleidyddiaeth ryngwladol ar ei ôl.
Yr enw fydd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, meddai'r brifysgol.
Dywedodd Menna Machraeth, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ei bod yn siomedig iawn a bod myfyrwyr a gwleidyddion wedi cefnogi'r ymgyrch.
Byddai enwi'r adeilad ar ôl Mr Evans wedi bod yn "deyrnged deilwng", meddai.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol y byddai'n cael ei adnabod fel yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol "ar hyn o bryd".
Bydd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan yn ei agor yn swyddogol ar Orffennaf 25.
Gwynfor Evans oedd AS ac arweinydd cynta Plaid Cymru
|
Cychwynnodd yr ymgyrch i enwi'r adeilad newydd ar ôl Mr Evans ym Mai y llynedd a daeth yn bolisi swyddogol undeb y myfyrwyr yn Hydref.
"Wedi marwolaeth Mr Evans y llynedd, roedd myfyrwyr yn teimlo y byddai'n addas i enwi'r adeilad ar ei ôl," meddai Ms Machraeth.
"Er roedd yn AS Plaid Cymru, roedd yn rhyng-genedlaetholwr uchel ei barch ac roedden ni'n teimlo y byddai enwi'r adeilad ar ei ôl wedi ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol."
Dywedodd fod Plaid Cymru, AS Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion Mark Williams a myfyrwyr o dramor wedi cefnogi'r ymgyrch.
Mr Evans oedd AS cynta Plaid Cymru wedi iddo ennill is-etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966, 40 mlynedd yn union yn ôl.
Bu farw yn Ebrill y llynedd yn 92 oed.
Yr adran gwleidyddiaeth ryngwladol yw'r adran hyna o'i math yn y byd.