 |
Cafodd y garreg ei dadorchuddio ar y Garn Goch
|
Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio ddydd Sadwrn i Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Dr Gwynfor Evans.
Deugain mlynedd yn ôl enillodd y blaid ei sedd Seneddol gyntaf mewn isetholiad yng Nghaerfyrddin.
Mae'r gofeb yng Ngarn Goch, man oedd yn agos iawn at ei galon, ger pentref Bethlehem yn Sir Gâr ac roedd dadorchuddio yn rhan o Rali Cofio '66.
Enillodd Dr Evans yr isetholiad yng Nghaerfyrddin ar Orffennaf 14, 1966.
Amrhisiadwy
Ymhlith y siaradwyr ddydd Sadwrn roedd Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan; Llywydd Anrhydeddus y blaid, Dafydd Wigley; cyn-asiant Dr Evans, Peter Hughes Griffiths ac un o'i feibion y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.
Yno hefyd roedd yr AS lleol, Adam Price, a ddywedodd nad oes modd mesur cyfraniad Gwynfor at fywyd Cymru.
Mae 'na 40 mlynedd ers i Gwynfor Evans ennill sedd Caerfyrddin
|
"Roedd buddugoliaeth Gwynfor yn 1966 yn garreg filltir anferth ac mae'n fraint cymryd rhan yn y digwyddiad pwysig yma.
"Fyddai Cymru ddim y wlad yw hi na Sir Gâr y sir yw hi oni bai am gyfraniad Gwynfor."
Dywedodd ei deulu i Gwynfor "gysegru ei fywyd" i achos Cymru, cryfhau'r ymwybyddiaeth o Gymreictod a "dyfnhau awydd pobl Cymru i wybod mwy am eu hanes a'u diwylliant".
Bu'r teulu yn byw rhwng Bethlehem a Llangadog ac yn aml roedd Dr Evans yn dringo i ben y Garn Goch i gael ysbrydoliaeth.
Godidoca
Mae ei lwch wedi cael ei wasgaru yno a dywedodd y teulu fod y man uwchben Dyffryn Tywi yn addas iawn ar gyfer cofeb.
"Mae'n un o fannau godidoca Cymru, ac mae'r golygfeydd o Ddyffryn Tywi yn arbennig," meddai Mr ap Gwynfor.
"Roedd y lle mor bwysig iddo ac roedd yn mynd yn aml i gerdded yno ar ben ei hun neu gyda'i deulu.
Mae'r garreg 7.5 tunnell yn dod o Landybie
|
"Roedd yn mynnu ein bod yn mynd yno ar ŵyl San Steffan - gorchwyl blynyddol."
Daw'r garreg sy'n pwyso 7.5 tunnell o chwarel ger Llandybie.
Mae'n wyth troedfedd o uchder ac arni mae enw Gwynfor, croes Geltaidd a Thriban Plaid Cymru, y logo gwreiddiol.
"Mae'r teulu'n falch fod Ieuan Rees wedi ymgymryd â'r gwaith gan ei fod yn un o'r goreuon yn ei faes," meddai Meleri Mair, merch Dr Evans.
"Mae'r gofeb yn drawiadol ac yn deilwng."
Dywedodd fod y teulu'n ddiolchgar iddo ac i'r cwmni am symud y garreg i'r safle.