BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2006, 16:07 GMT 17:07 UK
Llofrudd: Rhyddhau adroddiad
Michael Stone
Collodd Stone apêl yn erbyn ei ddedryd yn 2005

Bydd adroddiad am iechyd meddwl y llofrudd Michael Stone yn cael ei gyhoeddi'n llawn.

Ddeng mlynedd wedi iddo lofruddio Lin a Megan Russell a cheisio lladd Josie Russell methodd ymgais Stone yn yr Uchel Lys i gadw'r adroddiad yn gyfrinachol.

Dyfarnodd Mr Ustus Davis y dylid cyhoeddi fersiwn llawn o'r adroddiad ond y dylid gohirio cyhoeddi tan Orffennaf 26.

Mae'r teulu, Shaun a Josie Russell sy'n byw yn Nyffryn Nantlle, wedi croesawu'r datblygiad.

"Rhaid cofio i'r adroddiad gael ei orffen yn 2000, felly rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu ers amser hir," meddai Shaun Russell.

"A rhaid dysgu gwersi oherwydd y lles cyhoeddus, mae'r hyn yr ydyn ni wedi ei ddarllen yn yr adroddiad yn eitha brawychus am fethiannau'r systemau pan oedden nhw'n gofalu amddano cyn y llofruddiaethau."

Adroddiadau annibynnol

Cafodd Stone garchar am oes yn 2001 wedi iddo lofruddio'r fam a'r ferch yng Nghaint yn 1996.

Roedd wedi cael triniaeth oherwydd problemau iechyd meddwl ac oherwydd ei fod yn gaeth i gyffuriau.

Ac roedd adroddiad annibynnol gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth prawf ac asiantaethau iechyd wedi edrych ar ei ofal.

Lin Russell (chwith) a'i merch Megan
Ymosododd Stone ar Lin a Megan Russell â morthwyl

Comisiynodd y tri ymchwiliad annibynnol ar ôl y cafwyd Stone yn Hydref 2001 - er mwyn asesu pa wersi oedd i'w dysgu a gwneud argymellion.

Cyn y llofruddiaethau roedd Stone ar brawf ac yn cael cyngor oherwydd ei iechyd meddwl a thriniaeth ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau.

Roedd Mrs Russell yn cerdded adre gyda'i merched, Megan a Josie, ar hyd ffordd anghysbell yn Chillenden yng Nghaint ar brynhawn hafaidd ym 1996 pan gafodd y ddwy eu lladd.

Ymosododd Stone arnyn nhw a gofyn am arian ond doedd ganddyn nhw ddim.

Clymodd y ddwy a tharo eu pennau â morthwyl.

Bu farw Mrs Russell a'i merch chwech oed, Megan, ynghyd â chi'r teulu, Lucy.

Llwyddodd Josie, naw oed i oroesi er yr anafiadau difrifol i'w phen ac mae'n byw yn Nyffryn Nantlle gyda'i thad Shaun.




HEFYD
Stone: Barnwyr yn esbonio
21 Ion 05 |  Newyddion
Stone yn dychwelyd i'r carchar
19 Ion 05 |  Newyddion
Stone yn colli apêl
19 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^