Cyfarfu'r teuluoedd am y tro cynta yn Aberystwyth
|
Cafodd teuluoedd dau gystadleuydd o Gymru yng nghyfres rhaglen Big Brother gyfle i drafod y profiad o'u gwylio bob nos ar y teledu.
Radio Cymru drefnodd i deuluoedd Glyn Wise ac Imogen Thomas gwrdd â'i gilydd yn Aberystwyth yr wythnos hon.
Dywedodd mam Glyn fod ei mab 18 oed yn rhy ifanc i fod yn y gyfres.
Cafodd cyfweliadau â pherthnasau Glyn o Flaenau Ffestiniog ac Imogen, 24 oed o Lanelli, eu darlledu ar raglen Dylan a Meinir ar Radio Cymru brynhawn Mercher.
Roedd digon i'w drafod yn y cyfarfod rhwng mam a chwaer fawr Glyn, Ann ac Annette, a thad a brodyr hŷn Imogen, Charles, Owain ac Aled.
 |
"Dwi'n dal i deimlo fod (Glyn) ar y funud yn rhy ifanc gan fod y rhan fwya (o'r cystadleuwyr) yn ddwbl ei oed o
|
Trefnodd rhaglen Dylan a Meinir i'r perthnasau gyfarfod â'i gilydd gan fod y cyflwynwyr Dylan Wyn a Meinir Gwilyn yn trafod hynt y Cymry ifanc yn gyson ers cychwyn y gyfres.
Hon yw seithfed gyfres Big Brother a Glyn ac Imogen yw'r cystadleuwyr cynta i siarad Cymraeg ar y rhaglen.
Ar ddechrau'r gyfres cafodd y ddau rybudd gan y Brawd Mawr am siarad Cymraeg ond erbyn hyn does dim rhwystr ac mae is-deitlau'n ymddangos ar y sgrîn wrth iddyn nhw sgyrsio yn eu mamiaith.
Cytunodd y ddau deulu ei bod yn braf fod y ddau yn siarad yn Gymraeg â'i gilydd a hwythau wedi bod yn gaeth yn y tŷ am bron wyth wythnos erbyn hyn.
'Stryglo'
Gofynnodd Dylan Wyn i Ann Wise a Charles Thomas: "Fel rhiant, fasech chi'n argymell i unryw riant arall roi eu plant drwy hyn?"
Dywedodd y ddau eu bod yn teimlo y dylai'r cystadleuwyr fod o leia yn eu hugeiniau.
"Dwi'n meddwl y byswn i'n deud wrthyn nhw i aros nes y maen nhw'n 21, beth bynnag," meddai Mrs Wise.
"Dwi'n dal i deimlo fod (Glyn) ar y funud yn rhy ifanc gan fod y rhan fwya (o gystadleuwyr) yn ddwbl ei oed o. Weithia dwi'n gweld o'n stryglo dipyn bach.
"Bob nos dwi'n edrych arno fo a dwi'n gwingo weithia yn meddwl be mae o'n mynd i ddeud nesa."
Hoffi sylw
Dywedodd nad oedd yn hoffi gwallt Glyn ers iddo ei liwio'n felyn llachar, a bod ei nain yn dweud iddo "dyfu fyny yn rhy sydyn" wrth ei wylio ar y teledu.
Dywed mam Glyn Wise ei fod yn 'rhy ifanc' i fod ar raglen Big Brother
|
Ni fyddai Glyn yn cael unrhyw drafferth, meddai, yn delio â sylw'r cyhoedd pan ddeuai allan o'r tŷ.
"Mae o'r teip fasa wrth ei fodd yn cael y sylw ... hollol wahanol i'w fam," meddai.
Cyfaddefodd Annette Wise nad oedd wedi disgwyl i'w brawd iau gael ei dderbyn ar gyfer y rhaglen pan glywodd ei fod yn mynd i gyfweliadau.
Dywedodd ei fod "â'i draed ar y ddaear" ers mynd i'r tŷ a bod gwylwyr yn gweld ei gymeriad yn datblygu yn ystod y gyfres.
Ond dywedodd fod rhai o'i gampau wedi ei synnu. "Mae wedi bod yn sioc i mi pan mae o'n siarad am genod yn y tŷ achos fydda fo ddim yn deud y math yna o beth wrth ei chwaer," meddai.
'Gwireddu breuddwyd'
Roedd Glyn eisiau bod yn y rhaglen, meddai, i gael "enwogrwydd a mwy o lwc gyda'r genod".
Mae Imogen wastad wedi eisiau bod yn enwog, yn ôl ei theulu
|
Dywedodd brodyr Imogen, Owain, 26, ac Aled, 25, fod eu chwaer eisiau bod yn enwog a'i bod yn "ceisio gwireddu breuddwyd".
Treuliodd hi gyfnod yn byw ac yn gweithio yn Llundain cyn mynd ar y rhaglen ac mae hi wedi cael cyfweliadau am swyddi yn y byd teledu.
"Rydyn ni'n gweld mwy ohoni nawr nag oedden ni, "meddai Owain. "Mae ei gweld hi ar y teledu yn swreal."
Dywedodd yn gellweirus ei fod yn cael mwy o lwc â menywod ers i Imogen fod ar y rhaglen.
"Mae'r menywod yn dod ata i i drafod Imogen a dyna'r man cychwyn ...," meddai.