Bydd pwyllgor Gwynedd yn trafod yr adroddiad ddydd Iau
|
Mae canlyniadau proses ymgynghori ad-drefnu ysgolion cynradd bach yng Ngwynedd wedi cael eu datgelu.
Does dim argymhellion pendant ond mae'r adroddiad yn amlinellu sawl ffordd ymlaen, gan gynnwys clystyru, ffederaleiddio ac ysgolion ardal.
Dydd Iau y bydd pwyllgor craffu'r cyngor yn trafod yr adroddiad gafodd ei baratoi oherwydd gstyngiad yn nifer disgyblion.
Nid oes disgwyl penderfyniad terfynol am o leia flwyddyn.
Ymhlith y newidiadau posib mae uno ysgolion dan un pennaeth a chreu ysgolion ardal.
Ond dyw pawb ddim yn cytuno beth yw'r cam nesa ac mae'r adroddiad yn dweud fod rhai ardaloedd yn ystyried y broses yn "fygythiad".
Mae'r adroddiad yn crynhoi trafodaethau cychwynnol mewn gwahanol ddalgylchoedd:
Yn Y Bala, roedd cytuno cyffredinol o ran un ysgol ar gyfer y dre ac un ysgol yn lle pum ysgol gynradd leol.
Teimlad llywodraethwyr oedd y dylid cadw pum ysgol wledig - Bro Tryweryn, Ffridd y Llyn, O M Edwards, Parc a Llawrybetws.
Pryderon
Doedd dim cytundeb yn Nyffryn Ogwen ond mae swyddogion am fwy o drafod creu ysgol ffederal rhwng Gwaun Gynfi, Cwm-y-glo a Phenisarwaun neu Lanrug.
Doedd dim cytundeb chwaith yn ardal Pwllheli ond tynnwyd sylw at bryderon am nifer disgyblion yn ysgolion Rhydyclafdy, Yr Eifl a Llanaelhaearn.
Ym Mlaenau Ffestiniog roedd pobl yn cytuno â'r syniad o greu ysgol ardal rhwng Manod a Maenofferen a sefydlu clwstwr rhwng ysgolion Bro Cynfal ac Edmwnd Prys.
Bu rhieni ardal Dwyfor mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes
|
Gellid ehangu hyn yn y tymor hir a sefydlu ysgol ffederal rhwng Bro Cynfal, Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn ac, o bosib, Ysgol Tanygrisiau.
Ym Mangor bydd swyddogion yn ystyried ysgol ardal yn lle ysgolion Glanadda, Coed Mawr a Chae Top.
Yn ne Gwynedd, roedd cytundeb cyffredinol fod angen mwy o gydweithio rhwng ysgolion. Byddai hyn yn cynnwys clystyru neu ffederaleiddio ysgolion Aberdyfi a Phen-y-bryn, a rhwng Corris a Phennal yn y tymor hir.
Roedd pobl yn barod i ystyried y posibilrwydd o ysgol ardal yn y tymor hir i wasanaethau Abergynolwyn, Bryn-crug, Llanegryn a Llwyngwril.
Yr wythnos ddiwetha bu rheini'n cwrdd i drafod y cynllun i ad-drefnu addysg gynradd Gwynedd.
Bu 80 o rieni, llywodraethwyr a phrifathrawon mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes.
Dywedodd swyddogion addysg y byddai cynrychiolwyr, llywodraethwyr a rhieni yn cael mynegi eu barn.