Cafodd croen llachar y pafiliwn ei osod ddydd Iau
|
Mae pafiliwn pinc Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch wedi cael ei osod ar Faes y Brifwyl.
Cafodd ei gynllunio ar gyfer ymgyrch cansyr y fron ac mae'n siwr o ddenu sylw pobl sy'n teithio ar yr M4 heibio Parc Felindre.
Cwmni DeBoer gynlluniodd y pafiliwn ar gyfer ymgyrch Walk-the-Walk cansyr y fron.
Mae'r gwaith o godi'r pafiliwn yn cymryd llai nag wythnos i gyd.
Cafodd ei angori ddydd Llun, gosodwyd y polion ddydd Mercher a chafodd y croen pinc ei roi ar y ffrâm ddydd Iau, diolch i beirnianwaith a bôn braich 40 o weithwyr.
Dywedodd dirprwy swyddog technegol yr Eisteddfod, Meidrym Thomas, ei fod yn falch fod y pafiliwn yn ei le.
'Yn hapus'
"Dyw pobl ddim yn gweld y gwaith pwysig sy'n digwydd yn y ddaear - dodi popeth fel tap dŵr, trydan a ffonau.
"Nawr mae rhywbeth yn digwydd maen nhw'n hapus."
Mae'r pafiliwn pinc yn lle'r pafiliwn streipiau glas a melyn. Am 30 o flynyddoedd tan 1976, adeilad pren oedd y pafiliwn ac wedyn cafodd adeilad dur ei ddefnyddio am 10 mlynedd.
"Mae'r lliw dipyn bach yn llachar," meddai cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Abertawe a'r cylch, Heini Gruffudd, wrth sôn am y pafiliwn newydd.
"Ac mae sôn falle y bydd pobl ar y draffordd yn synnu o weld y lliw ac yn mynd dros y clawdd ond mae yn tynnu sylw!"
Dywedodd Catrin Alun, ysgrifennydd y pwyllgor gwaith, ei bod yn edrych ymlaen at y cystadlu yn y pafiliwn.
'Manteision'
"Mae lot o bethau'n mynd i fod yn digwydd y tu mewn a dwi'n meddwl mai'r tu mewn sy'n bwysig, nid y tu allan," meddai.
Dywedodd y cyfarwyddwr Elfed Roberts y gallai'r pafiliwn ddenu sylw pobl nad oedden nhw'n gwybod am y Brifwyl.
"Roedden ni'n gweld manteision mawr o'i ddefnyddio, nid yn unig am ei fod yn codi ymwybyddiaeth am yr elusen ond am yr Eisteddfod," meddai.