BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Gorffennaf 2006, 13:39 GMT 14:39 UK
Ailgladdu milwr fu farw yn y Somme
Milwyr Prydain yn neidio dros ffos (Llun Amgueddfa Genedlaethol Y Fyddin)
Roedd y frwydr yn rhan o'r ymgyrch yn y Somme

Mae corff aelod anhysbys o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y cafwyd hyd i'w gorff ar faes y gad yn Somme, wedi cael ei ail-gladdu ddydd Gwener.

Yn y seremoni fe fu 50 o gyn ffiwsilwyr wrth i gatrawd newydd y Cymry Brenhinol goffu'r frwydr o'r Rhyfel Byd Cynta.

Roedd y dyn - swyddog, o bosib - ymhlith 600 o Gymry a fu farw ym mrwydr Coedwig Mametz ym mis Gorffennaf 1916.

Gosododd y ffiwsilwyr dorch ac fe fuon nhw'n canu Cwm Rhondda er cof am y meirw.

Roedd yr Uwchgapten Robert Lake yn rhan o'r ddirprwyaeth o Gymdeithas Cymrodyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sy'n nodi 90 blynedd ers y frwydr, a marwolaeth y milwr anhysbys.

Dywedodd bod darnau o iwnifform y dyn yn amlygu taw aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd o, yn enwedig rhywbeth tebyg i fotwm gyda llun o ddraig, sef symbol y gatrawd.

Rydym am gael seremoni lle bydden ni'n gosod torch, a chanu Cwm Rhondda er cr am ein cyd-filwyr
Yr Uwchgapten Robert Lake

"Rydym yn credu ei fod yn swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am mai swyddogion yn hytrach na milwyr cyffredin oedd yn eu gwisgo," meddai.

"Mae'n debyg fod ei enw ymhlith y 37,000 ar gofeb yn Thiepval."

Digwyddodd brwydr Coedwig Mametz yn y Somme rhwng Gorffennaf 7 a 12, 1916 ac fe roedd yn cynnwys milwyr o'r 38fed Adran.

Roedd milwyr yr adran yn cael eu nabod fel "Byddin Gymreig" y Prif Weinidog David Lloyd George.

Bu bataliynau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymraeg, Cyffinwyr De Cymru a'r Gatrawd Gymreig yn rhan o'r ymladd.

Dywedodd yr Uwchgapten Lake: "Roedd brwydr Coedwig Mametz yn frwydr hollol Gymreig. Dyma oedd y tro cynta i filwyr ymladd mewn ardal goediog - roedden nhw'n ymladd dyrnau ac roedd yn frwydr araf ac anodd.

Pabi wrth iddi wawrio yn y Somme
Mae'n debyg fod enw'r milwr wedi ei nodi ar gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf

"Pan ydych yn ymweld 'r goedwig, rydych yn synhwyro ysbrydion, mae'n codi gwallt eich pen."

Digwyddodd yr ail-gladdu mewn mynwent ar bwys y goedwig.

Wedyn fu'r cyn ffiwsilwyr yn ymweld chofeb y 38fed Adran.

  • Mae dau aelod o Fataliwn Cynta'r Cymry Brenhinol hefyd wedi gosod torch ar fedd y bardd rhyfel amlwg, y Capten Robert Graves, gafodd ei gladdu yn Majorca.

    Roedd Graves yn aelod o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymry, ac fe gafodd ei anafu yn ystod Brwydr y Somme.

    Yn ei gofiant mae o'n disgrifio pasio maes brwydr Mametz, ac i'w ddynion aros i gladdu ffrindiau oedd oedden nhw wedi eu nabod ar l eu gweld yn farw ar faes y gad.




  • HEFYD
    Cadets yn seremoni cofio'r Somme
    01 Gorff 06 |  Newyddion

    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^