Nod y cwmni yw dechrau plannu'r coed yn yr Hydref
|
Mae gwefan newydd yn argymell plannu coeden bob tro y mae rhywun yn hedfan.
Nod cwmni Treeflights.com yn Llanddewibrefi ger Tregaron yw ceisio lleihau effaith llygredd awyrennau ar yr amgylchedd.
Ond dywedodd Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru na fyddai'r ymdrechion yn dadwneud effeithiau carbon deuocsid.
O Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd mae 1.9 miliwn o deithwyr yn hedfan bob blwyddyn.
Y syniad yw bod pobl yn talu £10 i'r cwmni yng Ngheredigion blannu coeden a bod tocyn yn cael ei roi ar bob coeden yn nodi enw'r person a manylion y daith awyren.
'15,000 o goed'
Dywedodd merch cyfarwyddwr y cwmni Anna Douglas mai'r nod fyddai dechrau plannu'r coed yn yr hydref ac y byddai ei brawd Zac yn helpu.
"Ry'n ni'n plannu yn Llanddewi ac yn Llanybydder," meddai. "Ry'n ni'n plannu 15,000 o goed ... llawer o wahanol fathau o goed fel onnen a derwen a cheiriosen."
Er eu bod yn cydnabod yr ymdrechion i geisio amddiffyn yr amgylchedd, mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud eu bod yn poeni fod y wefan ond yn gyfle i deithwyr leddfu cydwybod.
Dywedodd Esyllt Lord o'r mudiad na fyddai plannu coeden yn gwneud llawer o wahaniaeth.
"Nid dyna'r ateb o gwbl. Ein hateb ni yw peidio â hedfan neu geisio teithio mewn ffordd arall neu mynd ar eich gwyliau yng Nghymru neu Brydain.
"Dyw plannu coeden ddim yn help oherwydd y cynhesu yn ein tymheredd ... mae'r cynllun yn golygu y gall teithwyr hedfan ble maen nhw'n moyn ond eu bod yn rhoi £10 i blannu coeden fel derwen sy'n gallu cymryd can mlynedd i dyfu."
Buddion
Mae dulliau eraill sy'n lleihau'r llygredd sy'n cael ei ollwng i'r amgylchedd, meddai'r ymgynghorydd ynni, Guto Owen.
Y cam cyntaf, meddai, oedd lleihau faint o ynni yr oedd cwmnïau'n ei ddefnyddio - drwy osod goleuadau ynni-isel, insiwleiddio a defnyddio ynni gwynt a haul.
"Mae'r rheiny i gyd ar gael ar y farchnad ac mae'r costau'n dod i lawr o ddydd i ddydd.
"Os yw busnes yn buddsoddi yn y math yna o gyfarpar, bydd llawer o fuddion ariannol ac amgylcheddol yn y blynyddoedd i ddod."
Dywedodd rheolwyr y wefan eu bod yn gwybod fod y cynllun yn hirdymor ac y byddai'n cymryd hyd at 80 mlynedd cyn i'r coed dyfu'n llawn.