BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf 2006, 09:29 GMT 10:29 UK
Cadets yn seremoni cofio'r Somme
Y Somme
Milwyr Prydain yn mynd i faes y gad ym mrwydr y Somme

Mae'n 90 mlynedd ers dechrau brwydr y Somme ddydd Sadwrn.

Dros y penwythnos mae criw o gadlanciau o Wrecsam yn cymryd rhan yn y seremoni yn Ffrainc i gofio am y miloedd a fu farw yn y brwydro.

Dyma frwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd dros 400,000 o filwyr Prydain eu lladd.

Mae'r frwydr yn dal yn rhan annatod o hanes milwrol Prydain a bu'r brwydro'n parhau tan Dachwedd 13, 1916.

Mae 34 o gadéts o Wrecsam wedi teithio i Thiepval yn Ffrainc ar gyfer y cofio ddydd Sadwrn.

Mae'r Tywysog Siarl wedi bod yn arwain y seremoni yno.

Parch

Mae tri ohonyn nhw wedi darllen cerddi yn ystod y gwasanaeth, ac fe fyddan nhw i gyd yn cymryd rhan mewn gorymdaith arbennig.

Wrth gymryd rhan mewn digwyddiad mor bwysig, mae'r cadéts yn ymwybodol o'r tristwch sydd yn rhan o'r seremoni.

Aelodau o gatrwad Yr Orsedd, Wrecsam
Cadets Wrecsam yn paratoi ar gyfer y daith gerdded

"Dwi'n teimlo'n drist ac yn hapus ond yn teimlo'n falch hefyd fy mod yn mynd allan yna i ddangos parch i'r rhai gafodd eu lladd yn y frwydr a wnaeth y wlad yma yn lle gwell," meddai Kimberly Shone.

Roedd 'na filoedd o Gymru yn rhan o'r brwydro yn y Somme.

Mae nifer o'r cadéts yn perthyn i filwyr fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae 'na arwyddocâd arbennig i'r seremoni.

"Roedd ewythr i fy nhaid yn dod o Ruthun ac wedi ymladd yn y frwydr a'i ladd yn 1917," meddai Hannah Parbury.

Wrth ddilyn yn ôl eu troed fe fydd yn gyfle i filwyr y dyfodol dalu teyrnged i filwyr y gorffennol, aberthodd gymaint yn ystod y rhyfel mawr.

Fe fydd y cadéts yn rhan o daith gerdded noddedig 25 km (15.5 milltir) er mwyn codi arian ar gyfer Apêl y Pabi, Cronfa Cyn Filwyr a chomisiwn Beddi Rhyfel Prydain a'r Gymanwlad.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^