Bu seremoni gyhoeddi Eisteddfod 2007 ddydd Sadwrn
|
Cafodd seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007 ei chynnal ddydd Sadwrn.
Bu gorymdaith drwy dref Y Fflint cyn seremoni yng Nghylch yr Orsedd, Y Fflint, am 1500.
A bu cyngerdd yng Nghlwyd Theatr Cymru nos Sadwrn a Chymanfa Ganu yng Nghapel Bethesda Yr Wyddgrug nos Sul.
Roedd y seremoni lai na chwe mis ers cadarnhau y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint yn 2007.
Er gwaetha prinder amser llwyddodd trigolion bro Eisteddfod 2007 gynnal y seremoni a chyflwyno'r copi cyntaf o'r rhestr testunau.
"Gyda gwên ar ein hwynebau, yn wyneb haul llygaid goleuni, rydym yn llawenhau y bydd eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2007 ac mai ar dir Cymru y cynhelir hi," meddai'r Archdderwydd Selwyn Iolen o'r Maen Llog ddydd Sadwrn.
Cyhoeddodd y byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug.
'Yn wych'
Daeth cadarnhad yn Ionawr y byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y gogledd-ddwyrain wedi llawer o drafod am safle'r Ŵyl.
Er gwaetha'r prinder amser, dywedodd un o is-gadeiryddion y pwyllgor gwaith, Gron Ellis, fod "pethau'n dod at ei gilydd yn dda iawn".
"Mae'r trefniadau yn mynd yn wych ac nid fy lle i ydi datgelu unrhyw ffigyrau ond mae'r arian, y gwobrau ac yn y blaen yn dod i mewn yn wych.
Selwyn Iolen yn annerch yr Orsedd yn Sir y Fflint
|
"Mae'r fath beth â ... meddwl fod 'na ormod o amser weithiau gyda rhai ardaloedd yn cael dwy neu dair blynedd i gasglu arian a phobl yn llaesu dwylo.
"Ond unwaith y cawson ni wybod mai yma y bydd y Brifwyl rydym wedi gweithredu a hynny yn gyflym ac mae'r cydweithio wedi bod yn rhagorol."
Dywedodd Selwyn Evans, cadeirydd y pwyllgor cyllid, fod y broses codi arian wedi bod yn rhyfeddol o dda.
"Cwta bum mis yr ydym wedi ei gael ac mae pethau wedi mynd yn arbennig o dda ac rydym wedi croesi traean o'r targed lleol.
'Yn arbennig o dda'
"Mae'r ymateb cychwynnol wedi bod yn arbennig o dda ac mae'r dangos brwdfrydedd lleol pobl Sir Fflint."
Bu'r Eisteddfod yn yr ardal ddiwethaf yn Yr Wyddgrug yn 1991, Eisteddfod Bro Delyn.
Yn ystod seremoni'r cyhoeddi ddydd Sadwrn y cafodd John Gwilym, y cyn-Archdderwydd, ei urddo'n Gofiadur yr Orsedd gan olynu Jâms Nicholas a roddodd chwarter canrif o wasanaeth.